Adelina Patti
Bydd Adelina Patti, soprano orau ei chyfnod, yn cael ei chysylltu am byth â’i chastell yng Nghwm Tawe Uchaf. Rhoddodd iddo’r enw rhamantaidd Craig-y-Nos.
Adelina Patti (Chwefror 10, 1843 - Medi 27, 1919).
"Roedd cymysgedd prin o ddoniau gan Adelina Patti", ysgrifennodd H.Klein yn ei lyfr, The Reign of Patti (1920). "Nature taught her nearly everything that the average student has to strive to acquire".
Fe’i ganwyd yn Sbaen ym 1843 i rieni Eidalaidd a oedd yn gantorion opera, a threuliodd lawer o flynyddoedd yn byw yn America; roedd yn 7 mlwydd oed pan berfformiodd gyntaf o flaen cynulleidfa. Roedd ei llais yn nodedig am ei burdeb hynod, a dywedodd Verdi mai hi oedd y gantores orau yr oedd erioed wedi’i chlywed.
Roedd yn ddynes hardd a chanddi anian artistig nwydus, ac roedd yn destun edmygedd a chanmoliaeth ledled Ewrop. Roedd eisoes yn gantores â chanmoliaeth fawr iddi erbyn iddi ddewis dod i fyw yng Nghwm Tawe Uchaf yn Sir Frycheiniog, a pherfformiai’n gyson i deuluoedd brenhinol o bob cwr o Ewrop, gan fynnu ffioedd mawr am ei pherfformiadau.
Methiant fu ei phriodas gyntaf ag Ardalydd Caux; ym 1878, prynodd Gastell Craig-y-Nos yn Sir Frycheiniog i fyw ynddo gyda’i chariad, Ernest Nicolini, canwr opera arall a oedd wedi cyd-ganu â hi mewn deuawdau lu ac a oedd yn mwynhau bywyd y wlad. Bu’n byw yng Nghraig-y-Nos gyda Nicolini tan iddo farw ym 1898, ar ôl ei briodi yn Ystradgynlais ym 1886 yn dilyn ei hysgariad.
Ymgollodd yn llwyr ym mywyd y gymuned leol ar ôl iddi briodi Nicolini, ac roedd yn gymwynaswraig hael, yn rhoi cyngherddau elusen hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol i bob pwrpas. Roedd yn arbennig o hoff o drefi Aberhonddu, Abertawe a Chastell-nedd, ac roedd wedi canu yn Gymraeg yn yr Eisteddfod yn Aberhonddu ym 1889.
Ymgymerodd â llawer o brosiectau adeiladu yn y Castell dros y blynyddoedd, ac ym 1891 agorodd theatr yno. Cynhaliwyd llawer o gynyrchiadau cerddorol yno dros y blynyddoedd canlynol, hyd at farwolaeth Nicolini. Ailbriododd ym 1899, a’i gŵr newydd oedd y cymeriad braidd yn sobr, y Barwn Cederstrom. Bu Adelina’n perfformio ac yn diddanu llai a llai ar ôl hyn, a threuliai fwy o amser adref yng Nghraig-y-Nos gyda’i gŵr newydd a staff ymroddedig y tŷ.
Fe wnaeth Adelina ariannu adeilad sylweddol yr orsaf hefyd yng Nghraig-y-Nos/Penwyllt ar Reilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu. Ym 1918, cyflwynodd adeilad Gardd y Gaeaf o’i hystad Craig-y-Nos i ddinas Abertawe. Cafodd ei ailgodi a’i ailenwi’n Bafiliwn Patti. Bu farw yng Nghraig-y-Nos, ac wyth mis yn ddiweddarach fe’i claddwyd yn ymyl ei thad ym mynwent Père Lachaise ym Mharis.
