Mae mynyddoedd gwylltion a cymoedd cudd y Geoparc yn ganlyniad i bron 500 miliwn o flynyddoedd o hanes y byd. Mae’r ardal gyfareddol hon yn cynnwys tystiolaeth o foroedd hynafol, adeiladwaith mynyddoedd a newidiadau i lefel y môr ac i’r hinsawdd wedi ei gwasgaru ar draws tirwedd a luniwyd gan Oes yr Iâ diwethaf.
Cewch raeadrau anhygoel, ogofâu syfrdanol a’r mynyddoedd uchaf yn Ne Prydain.
Mae haenen ar haenen o greigiau’n ffurfio Geoparc y Fforest Fawr – yr hynaf ar y gwaelod, yr ieuengaf ar y brig. Gan i’r holl haenau gael eu gwyro tua’r de ac yna eu plamio i ffwrdd, gallwn weld traws-doriad ohonynt wrth inni deithio trwy’r dirwedd
Mae’n werth cofio i waith pwysig cynnar yn natblygiad daeareg fel gwyddoniaeth gael ei gyflawni yn yr ardal hon. Mae enwau dau o’r is-raniadau pwysicaf o amser daearegol – y Silwraidd a’r Ordoficaidd – yn adlewyrchu’r mapio arloesol a gynhaliwyd gan daearegwyr o’r 19eg Ganrif megis Charles Lapworth a Sir Roderick Impey Murchison yng ngogledd-orllewin y Geoparc. Daw’r enwau o lwythau’r Silures a’r Ordoficiaid a frwydrodd mor galed yn erbyn y Rhufeiniaid.
