Rydych chi yma: Cartref Geoparc Deall
Craig y Fan Ddu

Deall

Daw gwerthfawrogiad o dirwedd Geoparc y Fforest Fawr o ddealltwriaeth o’i ddaeareg a’r hyn oll sy’n tarddu ohoni.

Mae gan y creigiau gymaint o storïau i’w hadrodd, a dyma gyflwyniad i rai ohonynt. Ond nid yr hyn sydd o dan y ddaear yn unig sydd yn cyfrif – mae’r hyn a welwch heddiw wrth edrych o gwmpas y Geoparc  yw darn cyfareddol o’r wlad sydd â gorffennol, presennol a dyfodol.

Mae storïau dynol ryw yn rhan annatod  o wead storïau byd natur. Mae Astudiaethau archeolegol yn dweud wrthym bod dynion yn byw yma ers o leiaf 7000 o flynyddoedd,  ac ystod yr amser hwnnw mae wedi gwneud newidiadau i dir gwyllt a ddaeth yn gymynrodd iddo o filiynau o flynyddoedd o actifedd  daearegol . Mae wedi tynnu cerrig a mwnau o’r bryniau hyn ac adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd, trefi a phentrefi.

Mae canrifoedd o amaethyddiaeth wedi gweddnewid ymddangosiad naturiol y dirwedd. One erys o hyd yn gaer i’r bywyd gwyllt – gadawodd rhyngweithrediad rhwng dyn a natur  glytwaith o gynefinoedd, rhai ohonynt yn unigryw i’r ardal hon


Mae hefyd yn ardal ag etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog – mae storïau yn ymwe o gwmpas y bryniau hyn trwy gydol ein hanes – dwy chwedl enwog yr ardal yw ‘Meddygon Myddfai’ a ‘Morwyn y Llyn

Adlewyrchir llawer o’r chwedlau hyn yn yr enwau lleoedd sydd yn harddu’r dirwedd hon – daw’r dirwedd yn fyw wrth ichi eu deall.

Porwch yn y tudalennau hyn i fagu teimlad am Geoparc y Fforest Fawr.  Byddwch yn synnu i weld faint sydd iddo!

Gweithredoedd Dogfen
Error
There was an error while rendering the portlet.
 
 
Offer personol