Tiroedd Ysgol
Tiroedd Ysgol
Am syniadau ynghylch sut i wneud tiroedd eich ysgol yn fwy diddorol a chroesawgar i fywyd gwyllt, edrychwch ar y canlynol neu siaradwch ag un o’n Swyddogion Addysg.
Sut i fynd yn Wyllt yn eich Gardd:
Hanfodion Garddio Bywyd Gwyllt
Mae denu bywyd gwyllt i’ch gardd yn hawdd. ‘Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach yw eich gardd, gallwch wneud rhai newidiadau syml a chewch eich synnu gan y llu o fywyd gwyllt a fydd yn ymweld.
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofio’r tair elfen hanfodol:
- Wrth ddarparu amrywiaeth mor eang â phosibl o ffynonellau bwyd, byddwch yn annog pob math o fywyd gwyllt. Mae bwydwyr adar yn wych ond dyna’r dechrau’n unig. Gallwch gynnwys llwyni blodeuog sy’n dod ag aeron a chnau ar gyfer adar – a bydd hyn yn helpu rheoli malwod hefyd.
- Mae angen dŵr ar bob bywyd gwyllt, a gorau po fwyaf o ffyrdd y gallwch ddarparu dŵr. Mae baddonau adar yn gymorth, ond gall pwll ddarparu dŵr ar gyfer yfed yn ogystal â gweithredu fel cynefin ychwanegol.
- Ceisiwch gynnwys amrywiaeth mor eang â phosibl o gynefinoedd, a byddwch yn darparu cysgod rhag y gwynt a’r glaw ac ysglyfaethwyr, yn ogystal â mannau i greaduriaid nythu a magu.
Bwyd yn yr Ardd
Ffordd syml o annog llu o fywyd gwyllt i ymweld â’ch gardd yw trwy ddarparu amrywiaeth eang o ffynonellau bwyd drwy gydol y flwyddyn:
- Tyfwch gymysgedd o blanhigion cynhenid ac addurnol. Yn aml mae planhigion addurnol yn blodeuo neu’n dod i ffrwyth cyn ein rhywogaethau cynhenid neu wedi iddynt orffen, ac mae hyn yn ymestyn y cyfnod pryd mae bwyd ar gael. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod gaeafau llym.
- Tyfwch blanhigion sydd â llawer o neithdar a phaill sy’n blodeuo ar adegau gwahanol o’r diwrnod a’r flwyddyn - bydd y rhain yn rhoi bwyd i wenyn, ieir bach yr haf a phryfed eraill sy’n dibynnu ar flodau. Hefyd, gallwch blannu murwyll sy’n blodeuo gyda’r nos neu furwyll pêr ei arogl i ddenu gwyfynod i’ch gardd.
- Plannu coed a llwyni ffrwythau – gall y rhain fod yn ffynhonnell bwysig o fwyd yn y gaeaf i famaliaid ac adar. Gadewch rywfaint o’r ffrwythau ar y coed neu’n gorwedd ar lawr i ddenu adar ymfudol yn y gaeaf megis y coch dan adain a’r sogiar.
- Wrth dorri planhigion lluosflwydd yn ôl yn y gwanwyn yn hytrach na’r hydref, bydd yr hadau’n ffynhonnell arall o fwyd i adar, yn ogystal â rhoi lloches bwysig ble y gall pryfed aeafu.
- Po fwyaf yr amrywiaeth o blanhigion y gallwch eu cynnwys, mwyaf oll fydd amrywiaeth y pryfed y byddwch yn eu denu, a bydd hyn yn ei dro yn denu adar, mamaliaid ac amffibiaid.
