Gwasanaethau Allgymorth
Dyma grynodeb o’r gwasanaethau allgymorth a gaiff eu darparu gan Dîm Addysg y Parc Cenedlaethol.
Gweithgareddau mewn Ysgolion
Ein nod yw cwrdd ag anghenion pob grŵp ysgol trwy ddarparu gweithgareddau addysgol gwahanol ar gyfer grwpiau o bob oed a gallu. Cafodd ein rhaglenni eu datblygu i fod yn berthnasol i’r Cwricwlwm Cenedlaethol, meysydd llafur cyfredol TGAU, Lefel A ac A/S a TAAU a dibenion y Parc Cenedlaethol. Os ydych chi â diddordeb mewn gwneud y gorau o dir eich ysgol at ddibenion addysgol, eisiau defnyddio’r amgylchedd fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith creadigol/ABCh, eisiau ffurfio clwb amgylcheddol ar gyfer amser cinio neu ar ôl ysgol, neu os hoffech gael cyflwyniad sleidiau ynghylch gwaith a rôl APCBB, bydd ein staff yn hapus i’ch helpu.
Hefyd gall staff helpu trwy ddarparu gweithgareddau yn ymwneud â bioamrywiaeth, tirwedd hanesyddol a daearyddiaeth PCBB. Mae Cist Drysor y Parc Cenedlaethol yn ddarn gwych o offer rhyngweithiol ar gyfer trafod nifer o’r pynciau hyn. Yn ogystal, gallwn lunio rhaglenni arbennig i ateb anghenion grŵp.
