Lleoliadau Myfyrwyr a Gwirfoddoli
Ar gyfer lleoliadau hirdymor, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cyfleoedd rhagorol i wella gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â phynciau amgylcheddol.
Lleoliadau Myfyrwyr
Ar hyn o bryd, nid oes cyfleoedd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr o fewn y Parc Cenedlaethol, ond pan fydd mwy o gyllid ar gael rydym yn gobeithio y gallwn ddatblygu cronfa ddata o brosiectau a fyddai’n rhoi profiad ymchwil neu ymarferol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Os oes gennych faes arbennig o ddiddordeb a’ch bod yn teimlo y gallech ei ddilyn gyda lleoliad yn y Parc, neu os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer gwaith prosiect, rhowch wybod i ni.
Am fwy o wybodaeth, ysgrifennwch at yr Adran Addysg, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas-y-Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HP neu ffoniwch 01874 620463.
Dalier sylw: mae pob lleoliad yn ddi-dâl ac yn anffodus ni allwn gynnig cymorth gydag unrhyw gostau byw.
Gwirfoddoli
Rydym yn parhau i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer prosiectau penodol gan gynnwys Partïon Gwaith Wardeniaid, amrywiaeth o waith yn nhiroedd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Pharc Gwledig Craig-y-nos, gweinyddu teithiau cerdded tywysedig, cofnodi data ac arolygon strwythurol.
Hefyd mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan wirfoddolwyr a all ein helpu gyda phrosiectau ar gyfer 2011 ac rydym yn datblygu ‘pyllau’ o wirfoddolwyr ar gyfer prosiectau 2011 megis Cynllun Croesawu Wardeniaid yng Ngwaun Hepste (ym Mro'r Sgydau) ac arolygon ecolegol. Hefyd mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobl a all ofalu am stondinau mewn digwyddiadau yn ystod y gwanwyn a’r haf.
Datblygwyd ‘Pecynnau Sefydlu Gwirfoddolwyr’ newydd ac mae’r rhain yn cael eu hanfon at ein gwirfoddolwyr newydd. Maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am yr Awdurdod, y Parc Cenedlaethol a manylion am ein disgowntiau siopa a.y.y.b. (Os hoffai unrhyw un o’n gwirfoddolwyr presennol dderbyn un o’r rhain, cysylltwch â Jemma.)
Os gallech chi gyfrannu eich amser i’r Awdurdod ar gyfer unrhyw un o’n prosiectau, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jemma Bere ar 01874 624437.
