Pythefnos Profiad Gwaith
Yn 2011 roedd ein pythefnos profiad gwaith yn llwyddiant mawr unwaith eto, felly pam na ddewch chi i brofi gweithio i’r Parc Cenedlaethol yn 2012? Dyma gyfle gwych i fod allan yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol a chyfrannu at waith ymarferol ac ysgrifenedig gyda staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol.
Profiad Gwaith
Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall, bydd rhaglen profiad gwaith yr Awdurdod yn 2012 yn dilyn yr un fformat. Bydd yr Awdurdod yn derbyn myfyrwyr (Blwyddyn 12) a byddan nhw’n dilyn rhaglen amrywiol a gynlluniwyd yn arbennig (dyddiadau ym mis Gorffennaf i'w cadarnhau) a fydd yn eu galluogi i weld llawer o agweddau ar waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Byddwn yn derbyn mwyafrif o wyth myfyriwr o amrywiaeth o ysgolion gwahanol.
Dylai unrhyw fyfyrwyr sydd eisiau cymryd rhan yn y rhaglen lawn gysylltu â Linda Harley gan ddefnyddio cyfeiriad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a dweud wrthym pam yr hoffech chi ymuno â’n rhaglen profiad gwaith. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl oherwydd rydym yn derbyn llawer o geisiadau am brofiad gwaith bob blwyddyn a chaiff y lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
