Cyrsiau Diwrnod ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Mae llythrennedd a rhifedd yn elfen bwysig o’n holl gyrsiau.

 

Cwrs Maes cwricwlwm Disgrifiad Lleoliad
Bioamrywiaeth – Archwilio Bwystfilod Bach Gwyddoniaeth Dysgu am yr amrywiaeth o fywyd sydd mewn coetir a dŵr. PGCYN
Bioamrywiaeth – Coed tal, cynefinoedd a chadwyni bwyd Gwyddoniaeth Dysgu am y coed yn y parc gwledig a phwy sy’n gwneud eu cartrefi ynddynt. PGCYN
Tirweddau a Thirffurfiau – Uwchlaw ac Islaw’r Ddaear Daearyddiaeth/
Gwyddoniaeth
Archwilio prif nodweddion a thirffurfiau’r dirwedd drawiadol yn ardal y Parc Gwledig. PGCYN
Tirweddau a Thirffurfiau – Llwybr Amser Daearegol Daearyddiaeth/
Gwyddoniaeth
Gweithgareddau ymarferol i archwilio’r ffordd y cafodd ein tirwedd ei chreu a dyfodol ein tirwedd. PGCYN
Goroesi yn y Parc Cenedlaethol Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, ABGI, Celf, DaTh, Hanes, Mathemateg, AG Ymarferion adeiladu tîm sy’n cyflwyno disgyblion i adeiladu llochesau a’r ffordd roedd pobl yn hel bwyd a llunio offer yn y gorffennol pell. PGCYN
Sgiliau Map a Chwmpawd Daearyddiaeth, ABGI Datblygu sgiliau cyfeiriannu o fewn y Parc tra’n dysgu am gynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy. PGCYN
Cerdded y Ddaear Celf, ABGI, Gwyddoniaeth Profi cyfoeth a rhyfeddodau byd natur gan ddefnyddio’r holl synhwyrau a chreu gwaith celf gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. PGCYN
Archwilio Afonydd Daearyddiaeth Archwilio tarddiad yr Afon Tawe a dilyn ei thrywydd drwy’r Parc gan ddysgu am erydiad a dyddodiad. PGCYN
Croeso i’r Parc Cenedlaethol Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, ABGI Cyflwyniad darluniadol sy’n cyflwyno’r syniad o Barc Cenedlaethol, y cynefinoedd, bywyd gwyllt a defnydd y tir yn y man arbennig hwn (hyd at awr). Canolfan Fynydd
Goresgynwyr ac Anheddwyr Hanes Diwrnod cyffrous yn edrych ar fywyd yn Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a’r cyfnod Rhufeinig ym Mannau Brycheiniog, gan gynnwys taith gerdded i gaer Oes Haearn. Creu golygfa brwydr rhwng y Rhufeiniaid a’r Celtiaid, profi bywyd beunyddiol fel Celtiaid a gorffen gyda mwynhau gwledd i ddathlu ffrwyth eich llafur! Canolfan Fynydd
Datgloi Trysorau’r Parc Cenedlaethol Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, ABGI Gan ddefnyddio ein Cist Drysor unigryw, dysgu am amrywiaeth rhyfeddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gweithgareddau difyr, rhyngweithiol sy’n cefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac adlewyrchu ein hymrwymiad i natur a datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol (dwy awr). Canolfan Fynydd
Taith Gerdded i Ddarganfod Daearyddiaeth, Hanes, Gwyddoniaeth Profi tirwedd ysblennydd canol y Bannau ar daith gerdded fer dywysedig ar draws y gweundir cyfagos i’r Ganolfan Fynydd. Dysgu am y bywyd gwyllt, defnydd y tir a’i hanes (hyd at awr). Canolfan Fynydd
Taith Gerdded ar y Mynydd Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, ABGI Taith gerdded hirach hyd at 11km ar lwybrau cerdded, gweundir a bryn agored. Gan gynnwys darllen map a gweithgareddau er mwyn dysgu am ddefnydd y tir a thirwedd y Parc Cenedlaethol (pedair i chwe awr). Canolfan Fynydd
Sgiliau Map a Chwmpawd Daearyddiaeth, ABGI Yn dilyn gwers sylfaenol fel cyflwyniad, datblygu sgiliau map a chwmpawd a gweithio fel tîm i oresgyn heriau cyfeiriannu (awr neu fwy). Canolfan Fynydd
Profiad Cyffrous Celf, ABGI, Gwyddoniaeth Cymryd cam cyffrous i fyd natur. Mwynhau cyfres o weithgareddau ymarferol gyda’r nod o ymgysylltu’r synhwyrau a’r dychymyg (45 munud). Canolfan Fynydd
Taith Gerdded i Sgwd Gwladys Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth Cwrs diwrnod llawn yn cynnwys taith gerdded 2.5 milltir yn dilyn Afon Nedd Fechan i Sgwd Gwladys. Gellir gweld olion daeareg a hanes diwydiannol yr ardal ar hyd cwm yr afon. Geoparc y Fforest Fawr