Parc Gwledig Craig-y-nos

40 acer o ardd bleser Fictorianaidd y gantores opera fyd-enwog, Adelina Patti yw Parc Gwledig Craig-y-nos. Mae bellach yn eiddo i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r safle yn ddelfrydol ar gyfer ymweliadau addysgol gan fod nifer o wahanol gynefinoedd, coed, gweunydd a dwy afon yno, ac mae’n hawdd cael mynediad atynt. Hefyd, mae gofod addysgu y tu mewn yn Ystafell Hibbert.

Mae toiledau a chaffi ar y safle.

The duck pond at Craig-y-Nos Country Park