Danywenallt – Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid

P’un ai os ydych chi’n athro yn chwilio am antur addysgol, yn naturiaethwr amatur, neu’n gerddwr brwd, fe gewch groeso cynnes yma mewn llety cyfforddus, gyda bwyd blasus a golygfeydd ysblennydd.

Dewch i fwynhau lliwiau naturiol bendigedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma’ch cyfle i gerdded drwy goetiroedd, ar lannau afonydd, cribynnau uchel a dyffrynnoedd cysgodol. Gall ein tywyswyr gwybodus agor eich llygaid i’r dirwedd, y bywyd gwyllt a’r hanes o’ch cwmpas. Bydd croeso cynnes i chi ddod yn ôl i flasu danteithion lleol gyda’n bwydlen flasus ac amrywiol a threulio’r nos o flaen tanllwyth o dân mewn ffermdy traddodiadol Cymreig. Mae dewis o lety ar gael i fodloni eich holl anghenion, gan gynnwys ystafelloedd mawr a bach gyda chyfleusterau preifat. Rydym yn gwneud ein gorau i fod mor amgylcheddol gyfeillgar â phosib ac yn annog ein gwesteion i wneud yr un peth.

Yma yn Danywenallt, rydyn ni am i chi fwynhau eich ymweliad. Ein nod yw sicrhau eich bod chi a’ch grŵp yn cael profiad diogel a phleserus.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein dewis o weithgareddau cyffrous (bar llywio, o dan y teitl ‘Beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ysgolion’) ar gyfer grŵp oedran cyfnod allweddol dau. Ond, rydyn ni hefyd yn barod i drafod gweithgareddau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol a theilwra rhaglenni er mwyn bodloni anghenion penodol eich grŵp. Mae’r holl weithgareddau’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’n gyfle rhagorol i blant ddatblygu eu sgiliau allweddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.