Parciau Cenedlaethol yng Nghymru

Rydych ar fin dysgu llawer iawn o ffeithiau a gwybodaeth gymharol am Barciau Cenedlaethol Cymru. Ydych chi’n barod i fentro?
Trwy agor y ffeiliau isod cewch eich cyflwyno i dair o ardaloedd hyfrytaf a mwyaf eiconig Cymru; Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Parciau Cenedlaethol yng Ngymru (5Mb)

Yma, cewch ffeithiau am arwynebedd y Parciau Cenedlaethol a gwybodaeth am eu tirweddau, o’r mynydd uchaf i’w pwynt isaf, am hyd yr afonydd a defnydd tir yr ardal. Darllenwch am rywogaethau sydd mewn perygl yn ein Parciau Cenedlaethol, a’r rhai yr ydym yn eu gwarchod. Dysgwch am waith y bobl sy’n byw o fewn ffin y Parciau Cenedlaethol ac effaith yr ymwelwyr ar eu bywydau. Bydd cyfle hefyd ichi ddysgu sut y gallwch CHI ein cynorthwyo i edrych ar ôl yr ardaloedd gwarchodaeth gwych yma ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, un peth ydi darllen yr holl ffeithiau a chymharu’r Parciau Cenedlaethol. Faint fyddwch chi yn ei gofio ar ddiwedd y dydd?

Pan fyddwch wedi edrych ar y pecyn, profwch eich gwybodaeth am Barciau Cenedlaethol Cymru gyda ein Gêm Cardiau ‘Parau’.

pairs gameGraphic

Cadwch gopi  o’r ffeil gerllaw i wirio eich bod wedi cysylltu’r cardiau yn gywir neu gofynnwch i aelod arall o’r grŵp/athro sicrhau nad oes neb yn twyllo.

I ddysgu mwy am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dilynwch y cyswllt yma.

I ddysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri dilynwch y cyswllt yma.

I ddysgu mwy am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro dilynwch y cyswllt yma.