Y Rhestr Leol

Beth yw’r Rhestr Leol?

Mae’r Rhestr Leol yn rhestru’r holl asedau treftadaeth, gan gynnwys adeiladau, safleoedd archaeolegol, henebion, lleoedd lle y gallai digwyddiadau hanesyddol lleol arwyddocaol fod wedi digwydd, a mannau agored nad ydynt yn ymddangos ar unrhyw restr neu gofrestr genedlaethol ond sy’n bwysig i gymunedau lleol a’r lleoedd rydym yn byw ynddynt.  Mae treftadaeth leol yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein bywydau bob dydd, gan gyfrannu at ein hansawdd bywyd, ein hunaniaeth a’n hymdeimlad o le a chymuned.  Mae’r Rhestr Leol yn helpu i ddathlu treftadaeth leol, gan amlygu ei phwysigrwydd a sicrhau y caiff ei gwerthfawrogi.  Mae’n galluogi cymunedau lleol i dynnu sylw ffurfiol at yr asedau treftadaeth sydd ag arwyddocâd iddynt, y maent yn eu gwerthfawrogi, ac y maent am eu gweld yn cael eu gwarchod a’u cadw.  Mae’r Rhestr Leol yn cynrychioli’r dreftadaeth sy’n bwysig i’r gymuned leol, ond nad yw efallai’n cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer ei dynodi’n genedlaethol.

 

Pwy sy’n llunio rhestr leol?

Caiff Rhestri Lleol eu llunio gan awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn gweithio ar y cyd i amlygu a chydnabod yn ffurfiol asedau treftadaeth o bwysigrwydd lleol.

 

Pam cynhyrchu rhestr leol?

Mae cynhyrchu Rhestr Leol yn rhoi llais i gymunedau lleol, gan helpu i amlygu a chydnabod yn ffurfiol yr asedau treftadaeth sy’n bwysig i’r ardal leol a’i phobl.

Mae Rhestri Lleol yn dathlu treftadaeth leol ac yn sicrhau y caiff ei werthfawrogi.

Mae Rhestri Lleol yn sicrhau ein bod yn cydnabod bod mwy i’n treftadaeth nag Adeiladau Rhestredig, Henebion Cofrestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Pharciau a Gerddi Cofrestredig dynodedig o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae’r Rhestr Leol yn gallu amddiffyn sawl elfen o’r amgylchedd hanesyddol na fyddai’n cael ei chydnabod na’i diogelu’n ffurfiol fel arall, trwy bwysleisio cymeriad a hynodrwydd lleol a sicrhau bod newidiadau a datblygiadau yn parchu rhinweddau arbennig ardal a’r asedau treftadaeth sy’n werthfawr i gymunedau lleol.

Mae Rhestri Lleol yn sicrhau bod gwerth ein hasedau treftadaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r broses gynllunio a bod gan dreftadaeth le cyfiawn wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud ein cymunedau yn lleoedd diddorol a braf i fyw ynddynt.

Nid yw bod ar restr leol yn rhoi unrhyw warchodaeth statudol, ond mae’n annog perchennog safle neu adeilad, a’r gymuned leol, i gadw ei rinweddau arbennig a helpu i sicrhau ei barhad hirdymor.

 

Sut caiff ased treftadaeth ei gynnwys ar y rhestr leol?

Caiff cymunedau lleol eu holi ynghylch pa asedau treftadaeth sy’n cael eu cynnwys ar y Rhestr Leol ar gyfer eu hardal, a gall trigolion lleol enwebu asedau treftadaeth yr hoffent eu cynnwys ar y Rhestr.  Gall ased treftadaeth ond gael ei gynnwys ar y Rhestr Leol os yw’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf cytûn.  Dyma’r meini prawf:

1. Diddordeb Hanesyddol

a) A yw’n ymwneud ag agwedd bwysig ar hanes cymdeithasol, crefyddol, gwleidyddol neu economaidd lleol?

b) A oes ganddo gysylltiad hanesyddol â nodwedd leol bwysig?

2. Cysylltiad Hanesyddol

a) A oes ganddo gysylltiad agos ag: enwogion lleol, digwyddiadau hanesyddol lleol, datblygiadau cymunedol neu gymdeithasol cryf (rhaid bod tystiolaeth dda ohonynt)?

b) A oes ganddo gysylltiad agos ag unrhyw strwythur neu safle sydd wedi’i warchod yn statudol?

3. Teilyngdod Pensaernïol a Dyluniadol

a) A yw’r adeilad/strwythur/parc neu ardd sy’n weddill yn waith pensaer neu ddyluniwr penodol sy’n enghraifft o hanes neu ddyluniad lleol neu ranbarthol?

b) A yw’n dangos rhinweddau ei oes, neu arddull a nodweddion nodedig sy’n gysylltiedig â’r ardal?

c) A yw’r dyluniad pensaernïol, y manylion a’r deunyddiau adeiladu yn ychwanegu at gymeriad lleol yr ardal?

4. Goroesiad

a) A yw ar ffurf sylweddol ac adnabyddadwy o hyd?

b) A yw’n cadw ei nodweddion a’i gynllun hanesyddol?

c) A yw’n cynrychioli elfen bwysig yn natblygiad yr ardal?

5. Teilyngdod Treflun

a) A yw’n cynrychioli amwynder gweledol pwysig yn lleol?  Er enghraifft, a yw’n creu effaith weledol ddiddorol mewn ardal neu’n ffurfio tirnod?

b) A yw’n adeilad(au) nodedig ar lwybr pwysig i mewn i’r ardal, sy’n creu golygfa neu’n cyfrannu at y gorwel?  A yw’n pwysleisio safleoedd cornel neu’n darparu canolbwynt yn y treflun?

6. Bioamrywiaeth

a) Adeiladau sy’n darparu cynefin/amddiffyniad ac yn annog bioamrywiaeth.

 

Rhestri Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ar hyn o bryd, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y camau cynnar o baratoi drafftiau cychwynnol y Rhestri Lleol ar gyfer Aberhonddu, Talgarth, Y Gelli a Chrughywel.  Ar ôl i’r drafft cychwynnol gael ei baratoi, bydd cymunedau lleol yn gallu rhoi sylwadau ar y drafft hwn ac enwebu asedau treftadaeth ychwanegol yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys ar eu Rhestr Leol.  Wedi iddynt gael eu cwblhau, bydd y Rhestri Lleol a luniwyd ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gael i’r cyhoedd.

 

Rhestr Leol Aberhonddu a Thalgarth

Cymeradwyodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Restr Leol Aberhonddu a Thalgarth ar 12 Gorffennaf 2013.

 

Gallwch weld y Rhestr Leol gymeradwy ar gyfer Aberhonddu a Thalgarth yma.

 

Beth yw effaith rhestri lleol?

Er nad oes unrhyw reolaethau statudol uniongyrchol ychwanegol dros eiddo sydd wedi’i gynnwys ar y Rhestr Leol, bydd yr Awdurdod yn annog perchnogion i gadw’r rhinweddau arbennig sydd wedi arwain at eu cynnwys ac yn hyrwyddo gwaith adfer, lle mae tystiolaeth dda.

Dan y Cynllun Datblygu Unedol presennol, caiff gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol ei gwmpasu gan Ran 1 Polisi 3, 3.50, ES8 ac ES24.