Adeiladau Rhestredig

Beth yw Adeilad Rhestredig a pham y maent yn bwysig?

Adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol yw Adeiladau Rhestredig.  Pan gaiff adeilad ei Restru, mae’r statws hwn yn berthnasol i’w ffasâd allanol, ei nodweddion mewnol, unrhyw adeiladau yn ei gwrtil ac unrhyw strwythur sydd wedi’i osod neu wedi’i gysylltu â’r adeilad.  Er mwyn i adeilad fod yn Rhestredig, rhaid iddo gael ei ystyried yn bwysig yn ôl meini prawf penodol, gan gynnwys:

 

Ei ddiddordeb pensaernïol – ei bensaernïaeth, dyluniad, cynllun, crefftwriaeth, deunyddiau a’r technolegau a ddefnyddiwyd;

Ei ddiddordeb hanesyddol – ei gysylltiadau ag agweddau ar hanes cenedlaethol;

Ei gysylltiadau hanesyddol – ei gysylltiadau â phobl bwysig neu ddigwyddiadau hanesyddol;

Ei werth grŵp – ei gysylltiad ag adeiladau a strwythurau eraill.

 

Po hynaf yw adeilad, y mwyaf tebygol ydyw i gael ei restru.  Mae pob adeilad sy’n parhau’n debyg i’w ffurf wreiddiol ac a adeiladwyd cyn 1700 yn debygol o fod yn gymwys i ennill statws Rhestredig.  Fodd bynnag, dim ond yr adeiladau hynny o ansawdd eithriadol sy’n dyddio o rhwng 1840 a 1914 sy’n debygol o gael eu Rhestru.  Serch hynny, gall unrhyw adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, beth bynnag fo’i oedran, gael ei ystyried ar gyfer ei Restru.

Mae penderfyniadau ynghylch pa adeilad y dylid ei restru a chynnal a chadw Rhestr Adeiladau yn rhan o ddyletswyddau cyfreithiol Llywodraeth Cymru.  Mae 3 gradd o adeiladau rhestredig:

Gradd I – adeiladau o bwysigrwydd rhyngwladol yw’r rhain sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol eithriadol.  Dim ond 2% o’r holl Adeiladau Rhestredig yng Nghymru sy’n rhai Gradd I.

Gradd II* – mae’r adeiladau hyn o fwy na diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.  Dim ond 7% o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru sy’n rhai Gradd II*.

Gradd II – adeiladau o bwysigrwydd cenedlaethol sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw’r rhain.  Mae’r mwyafrif helaeth o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn rhai Gradd II.

 

Sut y caiff Adeiladau Rhestredig eu gwarchod?

Caiff Adeiladau Rhestredig eu gwarchod yn ôl y gyfraith gan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, y mae arweiniad yng Nghylchlythyrau 61/96 a 1/98 Llywodraeth Cymru yn ei hategu.  Dan y ddeddfwriaeth hon, mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol i sicrhau cadwraeth Adeiladau Rhestredig yn eu hardal trwy reoli gwaith ac atgyweiriadau i Adeiladau Rhestredig trwy’r drefn Caniatâd Adeilad Rhestredig a thrwy reoli datblygu a chaniatâd cynllunio.

 

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig, y broses Restru a Chaniatâd Adeilad Rhestredig trwy fynd i’r adran briodol ar wefan Cadw