Adeiladau Rhestredig mewn Perygl

Beth sy’n achosi i adeilad fod mewn perygl?

Dros amser mae beth mae pobl ei angen gan eu hadeiladau yn newid, ac mae’n rhaid i’r adeiladau addasu a newid hefyd, fel arall byddan nhw’n peidio â bod yn ymarferol, bydd gwaith cynnal a chadw yn dod i ben a byddan nhw’n dirywio. Mae nifer o’r Adeiladau Rhestredig sy’n cael eu hystyried i fod mewn perygl ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn perygl oherwydd nad oes gennyn nhw swyddogaeth neu ddefnydd economaidd gan fod gofynion newidiol yn golygu nad oes modd eu defnyddio i’r pwrpas gwreiddiol.

Y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn cynhyrchu, yn diweddaru ac yn cynnal cofrestri o’r Adeiladau Rhestredig sy’n cael eu hystyried i fod ‘mewn perygl’ yn ei ardal awdurdod lleol. Cafodd Cofrestr Adeiladau mewn Perygl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chreu yn 2010 yn dilyn arolwg cynhwysfawr o’r Adeiladau Rhestredig yn y Parc Cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae yna 132 adeilad ar gofrestr ‘mewn perygl’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cyfateb i 6.8% o’r stoc adeiladau rhestredig yn ardal Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Dyma’r arolwg Adeiladau mewn Perygl hefyd yn categoreiddio’r lefelau atgyweirio a brys y gwaith oedd ei angen ym mhob adeilad mewn perygl er mwyn adnabod y safleoedd blaenoriaeth oedd angen atgyweiriadau argyfyngus er mwyn atal colli’r adeilad. Mae’r gofrestr hon ar gael i’r cyhoedd, ac mae’n cynnwys enwau’r holl adeiladau, gan enwi a chywilyddio adeiladau problemus yn y Parc Cenedlaethol.

Mynd i’r Afael ag Adeiladau mewn Perygl: Yr Adeiladau mewn Perygl

Strategaeth

Mae Swyddog Cadwraeth Adeiladau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymdrechu i ddod o hyd i ddyfodol tymor hir cynaliadwy i’r Adeiladau mewn Perygl yn y Parc Cenedlaethol. Fel rheol, y defnydd gorau ar gyfer Adeilad Rhestredig yw’r pwrpas y cafodd ei adeiladu ar ei gyfer, ond os yw anghenion cymdeithas fodern yn pennu nad yw hyn yn ymarferol neu’n bosib mwyach, mi fyddai’n rhaid ystyried newid yn ei swyddogaeth a fyddai’n dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd economaidd ymarferol, ond gan gadw gymaint o’r ffabrig gwreiddiol, cynllun y llawr a chymaint o’r nodweddion gwreiddiol â phosibl, fel cam cadarnhaol tuag at sicrhau dyfodol tymor hir yr adeilad. Cafodd strategaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer mynd i’r afael ag Adeiladau mewn Perygl ei datblygu yn ôl canlyniadau Arolwg Adeiladau mewn Perygl 2010 ac mae ar gael i’r cyhoedd; mae hyn yn golygu gall darpar ddatblygwyr, entrepreneuriaid, penseiri – ac yn wir y rhai sy’n chwilio am dai – ddarllen y Gofrestr i ddod o hyd i gyfleoedd a phrosiectau cyffrous newydd. Am ragor o wybodaeth ynghylch adeiladau ar y Gofrestr cysylltwch â’r Uwch Swyddog Treftadaeth.

Mae’r dolenni isod yn arwain at Strategaeth a Chofrestr Adeiladau mewn Perygl (2012) a Chofrestr Adeiladau mewn Perygl (2013):

Strategaeth a Chofrestr Adeiladau mewn Perygl 2012

Chofrestr Adeiladau mewn Perygl 2013