Archaeoleg a Chynllunio

Ni fydd y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio a datblygiadau yn effeithio’n arwyddocaol ar olion archaeolegol.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bygythiad posibl y gall datblygu ei gael ar olion archaeolegol, ac mae cadw olion archaeolegol a’u lleoliad yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio.  Caiff polisi Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag olion archaeolegol, cynllunio a rheoli datblygu ei nodi yn y dogfennau canlynol:

Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru Cadw’r Amgylchedd Hanesyddol

Cylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Archaeoleg

Mae bob amser yn well i gadw olion archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn y fan a’r lle.  Fodd bynnag, caiff yr achos dros gadw olion archaeolegol ei asesu ar sail teilyngdod unigol pob achos, gan ystyried pob polisi cenedlaethol, y polisïau archaeolegol yn y Cynllun Datblygu Lleol, a phwysigrwydd cynhenid yr olion archaeolegol wedi’i bwyso yn erbyn ffactorau eraill, gan gynnwys yr angen am y datblygiad arfaethedig.  

Os yw safle archaeolegol yn ddigon pwysig, a bydd datblygiad arfaethedig yn achosi colled neu ddifrod sylweddol i’r olion archaeolegol a’u lleoliad, yna mae’n bosibl y caiff caniatâd cynllunio ei wrthod.  Fodd bynnag, mae hyn yn anghyffredin.  Gan amlaf, mewn achosion sy’n cynnwys olion llai pwysig, bydd presenoldeb olion archaeolegol mewn ardal ddatblygu yn mynnu amodau cynllunio sy’n caniatáu cadw olion archaeolegol yn y fan a’r lle trwy ddylunio’n ofalus neu archwilio a chofnodi’r olion archaeolegol ar y safle. Wedyn, bydd rhaid adrodd yn ôl a chyhoeddi’r canlyniadau er mwyn sicrhau y caiff yr olion eu cadw ar gofnod.

Er mwyn gwneud penderfyniadau hollol wybodus a rhesymol, mae angen i awdurdodau cynllunio gael yr holl wybodaeth am natur a phwysigrwydd yr olion archaeolegol a’u lleoliad, ynghyd ag effaith bosibl y datblygiad arnynt.  Mewn achosion lle na ellir asesu effaith debygol unrhyw ddatblygiad ar olion archaeolegol gan nad oes digon o dystiolaeth ar gael i wneud hynny ar y pryd, efallai bydd angen i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am oblygiadau archaeolegol tebygol y datblygiad, trwy gomisiynu Asesiad Pen Desg neu Arfarniad Maes.  Hefyd, gallai fod yn ofynnol i ymgeiswyr wneud darpariaethau ar gyfer lleihau neu ddileu effaith y datblygiad ar yr olion archaeolegol.

Ymgynghoriad Cynnar

Mae ymgynghori a thrafodaethau cynnar rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a datblygwyr yn bwysig iawn er mwyn sicrhau y caiff anghenion archaeoleg eu hystyried yn llawn, mor gynnar â phosibl yn y broses ddatblygu.  Fel rhan o ymchwil gychwynnol datblygwr i safle, dylid bob amser cynnwys arfarniad archaeolegol sy’n asesu a oes unrhyw olion archaeolegol hysbys yn weddill, neu o bosib yn weddill, ar safle datblygu penodol, ynghyd ag effaith debygol y datblygiad arnynt.  

Gall cynllunio a rheoli cadarnhaol helpu i reoli risg archaeolegol, sicrhau y gellir trefnu unrhyw asesiadau archeolegol angenrheidiol cyn y cais neu cyn y penderfyniad, a dod o hyd i atebion call ar gyfer ymdrin ag unrhyw olion archaeolegol lle mae gwrthdaro rhwng eu cadw a’r datblygiad.

Datblygu a Henebion Cofrestredig

Bydd angen Caniatâd Heneb Gofrestredig hefyd ar unrhyw un sy’n dymuno gwneud gwaith y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer ar safle archaeolegol sydd wedi’i ddynodi’n Heneb Gofrestredig.  Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn ddigon i awdurdodi’r cyfryw waith.  Caiff Caniatâd Heneb Gofrestredig ei weinyddu a’i roi gan Cadw.  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am Ganiatâd Heneb Gofrestredig trwy fynd i wefan Cadw.

Olion Annisgwyl

O bryd i’w gilydd, er gwaethaf y cyngor a’r ymchwil orau cyn gwneud cais, gall olion archaeolegol ddod i’r amlwg ar ôl i’r gwaith datblygu ddechrau.  Yn yr achosion hyn, os caiff ei benderfynu bod yr olion archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol, gallai’r olion gael eu cofrestru ac efallai y bydd angen i’r datblygiad ddod i ben.  Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, lle nad yw’r olion sy’n cael eu darganfod o bwysigrwydd cenedlaethol, dylai trafodaeth rhwng yr awdurdod cynllunio lleol a’r datblygwr allu dod o hyd i ateb call ar gyfer ymdrin ag olion archaeolegol.

Cyfarwyddyd a chyngor archaeolegol

Gall archaeolegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddarparu gwybodaeth a chyngor ar:

  • A yw datblygiad yn debygol o effeithio ar asedau treftadaeth hysbys.
  • A yw datblygiad yn sefyll mewn ardal â photensial archaeolegol.
  • Mesurau lliniaru priodol.

Hefyd, mae archaeolegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu cyfarwyddyd ar ffurf briff ysgrifenedig ar gyfer yr asesiadau a’r gwaith maes archaeolegol sydd eu hangen, gan esbonio’r hyn sy’n ofynnol, i’w ddefnyddio’n sail ar gyfer penodi archaeolegydd proffesiynol a chymwys i ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol.