Treftadaeth a Chynllunio

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn cael ei warchod, gan hefyd sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ac yn ymatebol i ofynion presennol.  Cyflawnir hyn drwy weithio ar y cyd â chyrff a sefydliadau eraill megis Llywodraeth Cymru, Cadw ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.

 

Treftadaeth Adeiledig

Caiff Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth eu gwarchod drwy’r drefn gynllunio. Dyma’r meysydd lle mae rheoliadau cynllunio’n effeithio ar y dreftadaeth adeiledig:

  • Caniatâd Adeilad Rhestredig
  • Caniatâd Ardal Gadwraeth
  • Caniatâd Hysbyseb
  • Gwaith ar goed mewn Ardal Gadwraeth
  • Estyniadau ac adeiladau newydd mewn ardal gadwraeth

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut caiff Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth eu gwarchod drwy’r drefn gynllunio drwy ddilyn y dolenni isod:

Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mabwysiadwyd Rhagfyr 2013 

Adeiladau Rhestredig a Chaniatâd Adeilad Rhestredig

Ardaloedd Cadwraeth a Chaniatâd Ardal Gadwraeth

 

Archaeoleg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bygythiad posib i olion archaeolegol yn sgil datblygiad. Mae’r dymuniad i warchod olion archaeolegol a’u cyd-destun yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut caiff olion archaeolegol eu gwarchod drwy’r drefn gynllunio drwy ddilyn y ddolen isod:

Archaeoleg a Chynllunio