Blog Minecraft

Hannah, 14

Rai misoedd yn ôl daeth Bronwyn Lally o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’n cyflwyno i brosiect newydd, cyffrous. Roedd eu technegwyr nhw wedi adeiladu’r Gelli yn Minecraft!

Syniad y prosiect yw denu pobl i fod yn rhan o waith cynllunio er mwyn i bawb allu profi syniadau a gweld pa effeithiau eraill all ddeillio o godi adeiladau newydd ar y dref gyfan. Mae byd Minecraft yn gadael i chi adeiladu pethau o ran, ac mae hefyd yn rhoi syniad da am y Gelli a’r ardaloedd cyfagos.

Mae’r prosiect gwreiddiol wedi para sawl mis hyd yn hyn, ac mae’r amlinelliad a’r adeiladau’n cael eu gwella’n gyson. Pan welson ni’r braslun o’r Gelli yn Minecraft gyntaf, roedd hi’n anodd gwahaniaethu rhwng yr adeiladau, a ble roeddech chi. Wrth i’r technegwyr weithio ar hynny, daeth yr adeiladau i edrych yn llawer mwy real.

Rydw i’n meddwl bod y technegwyr wedi gwneud gwaith rhagorol o wneud y Gelli’n gredadwy; oherwydd yn Minecraft, does dim llinellau crwm na llethrau.

Mae hi wedi bod yn ffantastig cael bod yn un o’r bobl gyntaf i fynd i fyd Minecraft y Gelli, a dwi wir wedi mwynhau’r gwaith adeiladau a’r dasg o’i wneud yn fwy realistig.

Dwi’n meddwl bod hyn yn syniad gwych i ddenu mwy o bobl ifanc i faes cynllunio, am mai ni fydd y rhai y mae’r gwaith yn mynd i effeithio arno yn y dyfodol, felly gadewch i ni gael llais!

Finn, 13

Ym mis Hydref 2015 cafodd pedwar ohonom ni o Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ein cyflwyno i brosiect gwych a ddatblygwyd gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB) – atgynhyrchiad union o’r Gelli yn Minecraft – roedd pob un o’r tai, afon Gwy a’r strydoedd yn union fel y maen nhw yn y byd go iawn! Pwynt y prosiect yw denu pobl ifanc i faes pensaernïaeth a chynllunio’r dref. Er enghraifft, fasech chi byth yn rhoi adeilad tal iawn mewn tref fach fel y Gelli am y byddai’n edrych yn hollol chwithig, ond fe allech chi edrych ar lecynnau yn y dref ble gellid adeiladu tai fforddiadwy, a’r ffordd y bydden nhw’n cael eu hadeiladu.

Rhoddwyd y cyfle hwn i ni am fod PCBB eisiau profi’r rhaglen cyn iddyn nhw’i rannu gyda phobl ifanc ac ysgolion eraill. Roedd yn llawer iawn o hwyl ac yn ffordd ragorol o fod yn greadigol. Serch hynny, roedd yna rai rheolau. Doedd dim hawl gyda ni i redeg o gwmpas y dref yn chwythu pethau i fyny ar hap! Fe wnaethon ni roi cynnig ar ffrwydro’r neuadd gymunedol, cofiwch, ond, yn siomedig, fe stopiodd y wi-fi â gweithio cyn i ni allu dod i ben. (Mae’n debyg ein bod ni wedi defnyddio gormod o TNT beth bynnag).

Fel helpodd y Sgriblwyr wneud y Gelli mewn Minecraft i edrych yn fwy credadwy. Fe wnes i helpu i adeiladu parlwr hufen iâ Shepherds, siop nwyddau ysgrifennu Bartrums, fferyllfa RM Jones a Country Supplies. Ymhlith adeiladau eraill y bu i’r Sgriblwyr gyfrannu atynt roedd Ysgol Gynradd y Gelli Gandryll, Siop Lyfrau Richard Booth, Eve Victoria’s ac Eighteen Rabbit.

Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r prosiect hwn mor gynnar yn ei oes, am mai ni oedd y bobl gyntaf heblaw am staff y Parc Cenedlaethol i wybod amdano ac yna i’w weld.

Cameron, 14

Ar 18 Hydref, daeth Bronwyn Lally o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r Neuadd Ymarfer i gyflwyno prosiect newydd i ni, a seiliwyd ar ddatblygu ardaloedd fel ein hardal ni. Y bwriad oedd ail-greu’r dref yn y gêm fideo Minecraft, gan ganolbwyntio ar arbrofi gyda datblygu pensaernïol a chynllunio, er mwyn gweld beth sy’n gweithio, a beth sydd ddim yn gweithio.

Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc nad oes ganddyn nhw ddim profiad, i fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir am y dirwedd sydd o’u cwmpas. Oes rhywun yn bwriadu adeiladu adeilad tal ofnadwy ynghanol y dref? Gwnewch adeiladwaith digidol gan ddefnyddio’r cynlluniau, a dangoswch pam y byddai’n syniad da neu’n syniad drwg, ac yna gallwch wneud penderfyniad.

Mae’r prosiect wedi dod yn fwyfwy manwl ers i ni ddechrau ar ein rhagolwg, gan symud o fod yn amlinell fras o dir ardal y dref i fod yn ailgread llawn a helaeth o bob adeilad. Serch hynny, doedd dim manylion fel drysau na thu mewn gan yr adeiladau hynny, a dyna ble daethom ni i mewn iddi.

Wrth i chi ddarllen hwn, bydd y prosiect yn fyw ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog eisoes yn adeiladu ailgreadau prototeip o drefi eraill yn y Parc Cenedlaethol, a fydd yn rhoi llais i ragor o bobl ifanc y rhanbarth yn eu dyfodol, gobeithio.

Helen Lucocq – swyddog polisi cynllunio

Yn fy ngwaith fel swyddog polisi cynllunio’r Parc Cenedlaethol, rydw i fel arfer yn delio â chysyniadau haniaethol am y dyfodol. Mae’r rhagolygon ynghylch y duedd mewn twf poblogaeth yn ein gorfodi i gynllunio’n fanwl ar gyfer anghenion tai a chyflogaeth, tra ar yr un pryd rydym eisiau ceisio gwarchod yr elfennau hynny o le sy’n ei wneud yn arbennig. Mae’n waith cydbwyso anodd, yn aml, a rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses ddefnyddio rhywfaint o ddychymyg i ddeall sut y bydd y materion hyn yn datblygu ymhen rhyw 10 i 15 mlynedd. Yr offeryn y byddwn ni’n ei ddefnyddio i ddod â’r holl faterion hyn ynghyd yw’r Cynllun Datblygu Lleol neu’r LDP, y cynllun datblygu statudol ar gyfer yr ardal, a thrwy ddefnyddio hwnnw rydym ni’n ceisio creu gweledigaeth ar gyfer datblygu’r Parc Cenedlaethol ar gyfer y dyfodol, mewn ffordd y cytunir arni gan bawb sy’n rhanddeiliaid ohono.

Yn y gorffennol bu’n anodd denu cymunedau i ymwneud yn llawn yn y broses o ysgrifennu cynllun. Mae hi’n dipyn o her dychmygu’r problemau ac yna rhoi meddwl ar waith i’w datrys gam wrth gam, ac o ganlyniad, bydd y trafodaethau a’r dadleuon ynghylch beth sydd orau ar gyfer ardal yn tueddu i ddigwydd ymysg gweithwyr proffesiynol y maes cynllunio, yn gynllunwyr y cyngor ac yn ddatblygwyr, y bobl hynny sy’n gallu siarad ‘iaith cynllunio’. Roedd prinder sgiliau gennym ni fel swyddogion proffesiynol i wneud y peth yn real i’r cymunedau.

Fel swyddog cynllunio, gallaf ddeall pam fod y broses mor rhwystredig o safbwynt cymunedau; rhaid i mi gyfaddef ei bod hi’n rhwystredig i ni’r swyddogion cynllunio hefyd, sydd wir yn becso am wella’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu. Dyma pam y gwnaethon ni benderfynu treialu gweithio gyda’r cymunedau er mwyn eu galluogi nhw i ysgrifennu’u cynlluniau bach eu hunain, sy’n delio â’r materion allweddol drostyn nhw’u hunain.

Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Tref y Gelli Gandryll fel ardal beilot er mwyn paratoi cynllun ar gyfer y Gelli sy’n seiliedig ar arolwg preswylwyr, ac a fydd yn dod, gobeithio, ar ôl ei orffen, yn atodiad i’r cynllun mabwysiedig, a gaiff ei ddefnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio. Serch hynny, roedd y dasg o ddychmygu datblygu’r lle’n parhau i fod yn her wirioneddol i ni.

Diolch byth, rwy’n ddigon ffodus i weithio gyda phobl sy’n meddu ar feddyliau creadigol iawn yn yr Awdurdod, ac fel oedd hi’n digwydd, roedd rhywfaint o’r gwaith roedd yr adran TG yn ei wneud ym maes GIS wedi cyflwyno cyfle cyffrous eithriadol i ateb y broblem. Gan ddefnyddio Minecraft, ac ychydig o bethau gîci anhygoel eraill, rydym ni wedi llwyddo i ail-greu tref y Gelli Gandryll mewn 3D er mwyn i randdeiliaid fod yn greadigol gyda hi. Mae’r Gelli Minecraft yn amlinellu’r holl bolisïau tir-seiliedig yn y byd, gan roi cyfle i ddefnyddwyr ddarlunio’r effeithiau yn eu meddwl a darparu atebion posib i’r problemau a godwyd, a hynny mewn ffordd hawdd. Mae’n brosiect eithriadol o gyffrous, sydd ond yn dechrau cropian ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd y gymuned yn ei gofleidio (fel y gwnaethon nhw gyda Chynllun y Dref) a dechrau chwarae o gwmpas yn y byd Minecraft er mwyn ceisio gwireddu’r hyn sydd ei angen ar y Gelli er mwyn datblygu yn y dyfodol yn y byd go iawn. Rydw i’n gweld hwn fel offeryn go iawn all bontio’r bwlch rhwng byd haniaethol cynllunio polisi, a’r byd beunyddiol. Drwy ddefnyddio Minecraft, rydym ni’n cyflogi ieithwedd sy’n gyfarwydd i lawer o bobl eisoes, iaith y gallan nhw’i defnyddio’n hawdd (yn wahanol i iaith gyfreithiol). Rydw i’n llawn cyffro wrth feddwl sut y bydd y Gelli’n datblygu ym myd Minecraft unwaith y caiff ei agor yn llwyr i’r gymuned, ac rwy wir, wir yn gobeithio y bydd y canlyniadau’n arwain at weld y Gelli wedi’i chynllunio’n well, yn seiliedig ar farn ein cymuned ryngweithiol.