Sut i gysylltu â’r Tîm Gorfodi Cynllunio

Os ydych chi’n dymuno cysylltu â Thîm Gorfodi’r Gwasanaethau Cynllunio, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau isod:

Ffôn:             (01874) 620431

E-bost:           enforcement@beacons-npa.gov.uk

Trwy lythyr:

Gorfodi Gwasanaethau Cynllunio

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Plas y Ffynnon

Ffordd Cambrian

Aberhonddu

LD3 7HP

 

Ein nod yw cynnig gwasanaeth gorfodi effeithlon ac effeithiol.  Fodd bynnag, os ydych o’r farn nad ydym wedi gweithredu yn unol â gweithdrefnau, blaenoriaethau a safonau’r gwasanaeth sydd wedi’u hamlinellu uchod, dylech gysylltu â’r Swyddog Gorfodi yn y lle cyntaf i weld a oes modd datrys y mater.

 

Cwynion am y Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio

Bydd yr holl gŵynion sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio yn cael eu cydnabod gan yr Awdurdod cyn pen pum diwrnod gwaith. Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio’n llawn i bob cwyn a bydd yr achwynydd yn cael ymateb ysgrifenedig cyn pen 20 diwrnod gwaith o gael y gŵyn.

Yn y lle cyntaf, dylai pob cwyn ynghylch Gorfodi Cynllunio gael ei gyfeirio at:

 

Y Cyfarwyddwr Cynllunio

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ffordd Cambrian

Aberhonddu

LD3 7HP

 

Os yw achwynydd yn anfodlon o hyd â’r ymateb ysgrifenedig gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, yna bydd manylion yn cael eu darparu ar gyfer mynd â’r gŵyn ymhellach trwy Swyddog Cwynion yr Awdurdod yn unol â gweithdrefn gwyno gorfforaethol ffurfiol yr Awdurdod. Bydd yr Awdurdod bob amser yn ymdrechu i ddatrys cwyn yn lleol ond os nad yw hynny’n bosibl, yna bydd yr achwynydd yn cael gwybod sut i fynd â’r mater ymhellach drwy’r Comisiynydd dros Weinyddu Lleol (yr Ombwdsmon).

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i wybodaeth sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’r Awdurdod yn cadw llawer o wybodaeth gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â chyngor cyn cyflwyno ceisiadau, ceisiadau cynllunio ac apeliadau. Bydd y rhagdybiaeth bob amser o blaid datgelu gwybodaeth o’r fath. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn bwysig i’r Awdurdod hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder yn y broses gynllunio a chaniatáu i unigolion ddeall y farn a fynegwyd a’r rhesymau sydd wrth wraidd penderfyniadau a wnaed.

Er bod ceisiadau am ddatgelu manylion adnabod achwynydd yn debygol o gael eu gwrthod gan y byddai hyn yn annog pobl i beidio â rhoi gwybod i’r Awdurdod am dor-rheolaeth cynllunio honedig (ac felly’n peryglu’r gallu i orfodi cyfreithiau cynllunio’n briodol yn y Parc Cenedlaethol), bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol i sefydlu a oes eithriad yn berthnasol.

Pan fo’r Awdurdod yn gwrthod cais am ddatgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf, caiff esboniad ysgrifenedig ei ddarparu sy’n cyflwyno’r eithriadau y gwnaeth yr Awdurdod ddibynnu arnynt er mwyn atal rhyddhau’r wybodaeth, a’r gweithdrefnau apelio perthnasol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu LD3 7HP

Ffôn:  (01874) 624437

Ffacs: (01874) 622574

E-bost: planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk