Cydymffurfio â Hysbysiadau Gorfodi

Mae peidio â chydymffurfio â gofynion hysbysiad gorfodi yn drosedd ac, os bydd angen, gellir cymryd camau cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiad â’r hysbysiad gorfodi.  Gall y sawl sy’n cael hysbysiad gorfodi gael ei erlyn mewn Llys Ynadon a chael ei ddirwyo a’i orfodi i dalu costau.

Gellir dwyn mwy nag un achos erlyn yn erbyn rhywun sydd wedi cael hysbysiad gorfodi ac sydd heb gydymffurfio ag ef. Mewn achosion eithriadol, mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol y pŵer i fynd ar y tir a chwblhau’r gwaith na wnaethpwyd gan y sawl a gafodd yr hysbysiad. Gelwir hyn yn weithredu uniongyrchol ac mae’n hynod anghyffredin oherwydd y costau ariannol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.