Beth yw torri rheolaeth gynllunio?

Mae dwy prif ffordd o dorri rheolaeth gynllunio:

  • Gwaith adeiladu, gweithgareddau peirianneg, neu newidiadau mewn defnydd o dir neu adeiladau a wneir heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol.

Serch hynny, nid oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer pob math o waith adeiladu/peirianneg neu newidiadau mewn defnydd. Naill ai ystyrir nad yw rhai ohonynt yn ddatblygiad o gwbl neu cânt eu hystyried yn  ‘ddatblygiad a ganiateir’, sy’n golygu nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio. Er enghraifft, mae’n bosibl na fyddai angen caniatâd cynllunio i godi estyniad bach i dŷ neu sied yn yr ardd, sydd o fewn cyfyngiadau penodol (dynodir y rhain yn ‘ddatblygiadau a ganiateir’).

  • Lle rhoddwyd caniatâd cynllunio ond ni lynwyd yn briodol wrth y cynlluniau a gymeradwywyd a/neu yr amodau ynghlwm.

Er enghraifft, gallai adeilad fod yn fwy o faint na’r hyn a ddangosir ar y cynlluniau a gymeradwywyd neu efallai torrwyd amod sy’n pennu oriau gwaith busnes. Er mwyn helpu i ganfod tor-amod o’r fath, mae’r Awdurdod yn cyd-drafod ag adrannau rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol. Os ydynt yn amau bod amod wedi’i dorri, cynhelir ymweliad safle i sicrhau bod y datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd.

Mae’r gwasanaeth gorfodi hefyd yn ymchwilio i gwynion yn ymwneud â’r canlynol:

  • Gwaith ar adeiladau rhestredig heb awdurdod

Mae datblygiadau heb awdurdod a wneir heb y caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth angenrheidiol, neu drwy fethu â chydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth y caniatâd, yn drosedd o dan Adran 9 a 59 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

  • Hysbysebion heb Awdurdod

Mae hysbysebion yn cynnwys posteri, placardiau, arwyddion blaen, arwyddion taflunio, arwyddion ar bolyn, arwyddion ar ganopi, model a dyfais, arwyddion rhybuddio a chyfeirio, byrddau gwerthwyr tai, hysbysebion ar falŵn wedi’i glymu (ddim yn hedfan yn rhydd), hysbysebion ar faner, byrddau arddangos pris, arwyddion traffig ac arwyddion enw lle. Nid yw cofebion nac arwyddion rheilffyrdd yn hysbysebion.

Mae’n bosib y bydd arwyddion sydd ag angen caniatâd hysbysebion ac sy’n cael eu harddangos heb y caniatâd hwnnw, ac a gaiff eu hystyried yn fygythiad i naill ai amwynder gweledol ardal neu sy’n effeithiol niweidiol ar ddefnyddwyr y ffordd, fod yn agored i gamau gorfodi.

  • Gorfodi – Coed

Mae hyn yn cynnwys gwaith heb awdurdod i goed sy’n destun Gorchmynion Cadw Coed neu goed mewn ardal gadwraeth.

Lle rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddatblygiad a bod angen torri coeden sy’n cael ei gwarchod, yna bydd y caniatâd cynllunio’n caniatáu torri’r goeden ac ni fydd angen caniatâd pellach gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Lle gwnaethpwyd gwaith heb awdurdod ar goeden sy’n cael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, neu lle na hysbyswyd yr Awdurdod am y gwaith ac mae’r goeden mewn ardal gadwraeth, bydd y Parc Cenedlaethol yn cymryd camau gorfodi ffurfiol, lle bynnag a phryd bynnag y teimlwn y byddai hynny’n fuddiol.

Byddwn hefyd yn ymchwilio i achosion o ddymchwel cloddiau heb awdurdod sy’n mynd yn groes i Reoliadau Cloddiau 1997 ac yn cymryd camau gorfodi lle bynnag a phryd bynnag y teimlwn y byddai hynny’n fuddiol. Ceir rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau Cloddiau 

  • Tir sy’n effeithio’n andwyol ar amwynder (tir a/neu adeiladau anniben)

Mewn achosion lle mae cwynion yn ymwneud â thir sy’n effeithio’n andwyol ar amwynder y gymdogaeth, mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bwerau o dan Adran 215 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i fynnu bod y tir yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol. Gall hyn fod yn berthnasol i erddi preifat hefyd sy’n effeithio’n andwyol ar amwynder y gymdogaeth. Fodd bynnag, dim ond ar ôl methu â datrys y mater drwy drafod y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn ystyried cymryd camau ffurfiol o dan Adran 219.

Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o dor-amod y gallwn ymchwilio iddo yn y Siarter Gorfodi