Y Porth Cynllunio

Hafan y Porth Cynllunio Mae’r Porth Cynllunio’n cynnig ystod eang o wasanaethau ac arweiniad ar y system gynllunio. Y dudalen hon yw’r brif fynedfa i’r porth. O’r fan hon, cewch gadarnhau a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, dod o hyd i swyddi yn y parth Gyrfaoedd, cael mwy o wybodaeth am apeliadau cynllunio a darllen y newyddion cynllunio diweddaraf.

Arweiniad i’r System Gynllunio Mae’r adran arweiniad yn cynnig cyflwyniad byr i’r system gynllunio a rhywfaint o esboniad o ddiben cynllunio a pham mae’n bwysig i bob un ohonom ni. Mae’r adran hon o’r Porth Cynllunio wedi’i hanelu at ddeiliaid tai ac at bobl fusnes. Mae’n esbonio pam mae angen rheolau cynllunio a sut caiff penderfyniadau eu gwneud.

Cais cynllunio ar-lein Gallwch ddewis cyflwyno’ch cais cynllunio i ni yn electronig, yn hytrach na thrwy ddefnyddio’r ffurflenni ar y safle hwn a’u hanfon atom drwy neges e-bost. Yn yr adran hon, gallwch: greu cais cynllunio a’i anfon yn electronig i’r Awdurdod ynghyd ag unrhyw atodiadau, neu lenwi’r ffurflenni ar eich cyfrifiadur a’u hargraffu a’u hanfon atom drwy’r post fel rhan o gais traddodiadol ar bapur.

Apeliadau Os ydych yn ceisio caniatâd i wneud gwaith ar eich eiddo ac os na wneir penderfyniad ar eich cais o fewn cyfnod penodol, neu os yw’r Awdurdod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, mae gennych hawl i apelio. Bydd yr adran hon yn rhoi arweiniad ar sut i wneud apêl, a hefyd rhestr chwiliadwy o apeliadau sydd wedi’u cyflwyno ar hyn o bryd ynghyd â dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi ar-lein.

Polisi ac Ymchwil Mae adran Polisi ac Ymchwil y Porth wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio a phobl sydd â diddordeb brwd mewn polisi cynllunio a diwygiadau i’r drefn.