Safleoedd gwarchodedig

Beth yw safleoedd gwarchodedig?

Y rhain yw’r safleoedd sydd wedi’u gwarchod gan gyfraith y Deyrnas Unedig. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o’r safleoedd hyn ond mae modd i ardaloedd llai yn y Parc Cenedlaethol gael un neu fwy o ddynodiadau pellach, wedi’u dylunio i amddiffyn daeareg neu fywyd gwyllt arbennig. Mae mwy o wybodaeth ynghylch tirweddau arbennig Cymru ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae safleoedd gwarchodedig (neu ddynodedig) yn cynnwys:

Mae yna hefyd restr o gynefinoedd sydd wedi’u nodi fel eu bod o bwysigrwydd pennaf ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru – sy’n cael ei adnabod fel Rhestr Adran 7.

Safleoedd anstatudol

Mae nifer o safleoedd anstatudol hefyd wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Bryncheiniog, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SINCs)
  • Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol (LWSs)
  • Safleoedd Geoamrywiaeth Pwysig Rhanbarthol (RIGS)