Pathew

Mae’r pathew yn dibynnu ar rwydwaith o ganghennau i symud o gwmpas i gasglu hadau a ffrwythau o goed. Gall unrhyw darfu ar goed a pherthi gael effaith ar boblogaethau pathewod.

Mae’n ofynnol cael trwydded Rheoliadau Cynefin ar gyfer gwaith a allai effeithio ar gynefin pathewod.

Mae gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Trwyddedau.