Dyfrgwn

Caiff y dyfrgi ei warchod gan gyfraith y Deyrnas Unedig, Ewrop a chyfraith ryngwladol. Ynghyd ag amddiffyniad uniongyrchol ar gyfer yr anifeiliaid, mae amddiffyniad hefyd ar gyfer y mannau sy’n cael eu defnyddio ganddynt i gysgodi, esgor, magu epilion (gwaliau) a gorffwys (ardaloedd diogi). Gan amlaf, bydd y mannau hyn gerllaw neu ar lannau afonydd a nentydd a byddant wedi’u cuddio’n dda iawn fel arfer.

Mae’n bwysig nodi presenoldeb dyfrgwn ar unrhyw safle datblygu lle maen nhw’n debygol o fod yn bresennol oherwydd goblygiadau hyn i’r datblygiad ac i’r broses adeiladu.  Mae’n ofynnol cael trwydded Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer unrhyw waith sydd â’r potensial i darfu ar ddyfrgwn.