Adar a nythod adar

Bydd presenoldeb adar sy’n bridio ar safle datblygu yn effeithio ar amseru’r gwaith. Gan fod y nythod wedi’u hamddiffyn hefyd, dylai unrhyw waith a allai effeithio ar adar gael ei wneud y tu hwnt i’r tymor nythu, pan fydd mwy o allu gan adar i symud i fan arall. Derbynnir bod y tymor nythu rhwng 1 Mawrth a 30 Awst, ond gall tywydd cynnes ddiwedd y gaeaf annog adar i nythu mor gynnar â mis Chwefror.

Bydd adar yn nythu mewn canghennau coed a thyllau coed, mewn perthi, y tu mewn i adeiladau ac ysguboriau, o dan estyll bondo neu ar y ddaear, yn ôl y rhywogaeth.  Mae angen i ddatblygiad osgoi tarfu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar y mannau hyn.

Dylai pob datblygwr ddarllen Nodyn Cyngor Cynllunio 21: Tylluanod Gwyn (Saesneg yn unig) cyn cyflwyno cais a allai effeithio ar dylluanod gwyn.

Mae nifer o wahanol flychau nythu, ffotograffau o addasiadau i ysguboriau yn cynnwys blychau i dylluanod gwyn, a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gael ar wefan y Barn Owl Trust sydd hefyd yn cynnwys cyngor ar gyfer addasu ysguboriau.

Mae English Nature (bellach Natural England) wedi llunio canllawiau i Ddatblygwyr a Chynllunwyr ar gyfer tylluanod gwyn ar safle. Er y bydd llawer o’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru hefyd, sylwch fod y y trefniadau trwyddedu yn wahanol yma, felly dylech ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru yn hytrach na Natural England.

Mae Canllaw i adar a’r gyfraith ar gael oddi wrth yr RSPB.