Ansawdd dŵr

Un o brif ffynonellau llygredd dŵr yw llaid a gwaddodion sy’n cael eu golchi o safleoedd adeiladu gan ddŵr glaw. Mae potensial gan symudiadau traffig, cloddio neu symud pridd a tharfu cyffredinol oll i olchi gwaddodion i afonydd a nentydd.

Ynghyd â llygru’r dŵr, gall y gwaddodion hyn setlo dros raean a’u mygu, gan ddinistrio cynefin silio i bysgod.  Gallai’r gwaddodion hefyd dagu neu lenwi tagellau pysgod a thyllau anadlu anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod ansawdd dŵr yn cael ei ddiogelu. Ynghyd ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gall Asiantaeth yr Amgylchedd ofyn bod mesurau penodol yn cael eu cynnwys yn y caniatâd cynllunio, neu gall argymell bod caniatâd yn cael ei wrthod.

Gweld cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd ar ansawdd dŵr