Pyllau, Afonydd a Nentydd

Gall newidiadau mewn draeniad, amlinelliad y glannau a’r llystyfiant sydd ar lannau afonydd affeithio ar ansawdd dŵr am filltiroedd i lawr yr afon. Os na chymerir gofal yn ystod datblygiad, mae’n bosib i briddoedd, gwaddod, llygredd a chemegau a ddefnyddir wrth adeiladu fynd i mewn i gwrs y dŵr.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru swyddogaeth i roi cyngor ar geisiadau cynllunio sydd wrth ymyl dŵr. Gallwch ganfod mwy am eu rôl mewn cynllunio ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i weld mwy o fanylion am wahanol gynefinoedd y gwlyptir (dyfrol).