Gwrychoedd a Rheoliadau Gwrychoedd

Rheoliadau Gwrychoedd

Mae Rheoliadau Gwrychoedd 1997 yn gofyn bod perchenogion gwrychoedd amaethyddol yn rhoi 42 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’w Hawdurdod Cynllunio Lleol o’u bwriad i gael gwared ar wrych cyfan neu ran o wrych.  Fodd bynnag, mae eithriadau i’r rheol hon, yn cynnwys gwrychoedd sy’n rhan o ffin neu gwrtil annedd.  Gall unrhyw un sy’n methu rhoi’r rhybudd hwn fod yn euog o drosedd.

Mae crynodeb o’r rheoliadau i’w gweld isod:

Os ydych yn bwriadu cael gwared ar wrych amaethyddol neu ran ohono, cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen i wneud cais am ganiatâd. Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn asesu a yw’r gwrychoedd yn bwysig yn unol â nifer o feini prawf yn y Rheoliadau; Mae rhagdybiaeth o blaid cadw gwrychoedd pwysig oni bai bod rhesymau eithriadol dros gyfiawnhau cael eu dileu.

Gweler y copi llawn o’r Rheoliadau Gwrychoedd.