Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Gorchmynion Cadw Coed

Gall awdurdodau cynllunio lleol fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyflwyno Gorchymyn Cadw Coed er mwyn gwarchod coed at ddiben hamdden, mwynhad y cyhoedd neu oherwydd eu budd amgylcheddol. Gallant fod yn berthnasol i goed unigol, i grwpiau o goed, i ardaloedd o goed, neu i goedwigoedd cyfan. Gall coed mewn perthi gael eu hamddiffyn gan y Gorchmynion, ond nid gwrychoedd.

Mae Gorchymyn Cadw Coed yn gwahardd torri i lawr, topio, tocio, dadwreiddio, difrod bwriadol neu ddinistrio coed heb gael caniatâd ymlaen llaw i wneud gwaith ar goeden sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol oni bai bod y goeden wedi marw, yn marw neu’n beryglus (gall hyn achosi problemau wrth ddelio â choed hynafol pwysig), neu fod y goeden yn rhwystr i ddatblygiad sydd â chaniatâd cynllunio. Mae Gorchymyn Cadw Coed yn amddiffyn gwreiddiau coeden hefyd.

Mae torri Gorchymyn Cadw Coed yn drosedd a gallech gael dirwy o hyd at £20,000 neu ddirwy ddiderfyn mewn achosion difrifol iawn. Gall awdurdodau cynllunio lleol hefyd geisio cael gwaharddebau i atal gwaith os oes bygythiad o dorri Gorchymyn Cadw Coed.

Mewn achos o gwympo coed heb awdurdod i wneud hynny, gall y llys orchymyn ailblannu a bydd y Gorchymyn Cadw Coed yn berthnasol ar unwaith i’r coed newydd.

Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Caiff Ardaloedd Cadwraeth eu dynodi gan yr awdurdod cynllunio lleol am eu gwerth hanesyddol. Er ei fod yn canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig, mae’r dynodiad hwn hefyd yn sicrhau rhywfaint o amddiffyniad i goed a choedwigoedd. Os yw eu diamedr dros 7.5 centimetr, ni all coed mewn Ardaloedd Cadwraeth gael eu cwympo, eu tocio na’u dadwreiddio heb gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (Hysbysiad Adran 211) i’r awdurdod cynllunio lleol. Yna, bydd chwe wythnos gan yr awdurdod i wneud un o’r canlynol:

  • cyflwyno Gorchymyn Cadw Coed; os felly, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd wneud cais am ganiatâd o dan y Gorchymyn i wneud y gwaith
  • rhoi hysbysiad i’r ymgeisydd nad yw’n bwriadu cyflwyno Gorchymyn Cadw Coed; os felly, gall y gwaith fynd yn ei flaen
  • os nad yw’r awdurdod cynllunio yn cyflwyno hysbysiad, yna ystyrir bod y gwaith wedi cael ei gymeradwyo, a gall gael ei wneud o fewn dwy flynedd wedi i’r cyfnod chwe wythnos ddod i ben.

Dyma’r pedair Ardal Gadwraeth sydd wedi’u dynodi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

Rhaid cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn dechrau gwneud gwaith ar goed mewn ardal gadwraeth. Rydym wedi llunio ffurflen hysbysu safonol er mwyn helpu’r ymgeisydd a’r swyddogion penderfynu.

Ffurflen Gais am Wneud Gwaith ar Goeden: Gwaith ar Goed sy’n Destun Gorchymyn Cadw Coed neu mewn Ardal Gadwraeth:

Cais am ganiatâd i wneud gwaith ar goed wedi’u diogelu

Rhagor o Wybodaeth a Chanllawiau: