Cymryd rhan a chefnogi eich cymuned leol
Gallai rhai o’r dolenni a restrir fod yn ddefnyddiol os ydych am ganfod mwy am faterion penodol, mwynhau eich Parc Cenedlaethol neu ddod o hyd i rywbeth i’w wneud.
Gweler y ddewislen CYNNWYS CYSYLLTIEDIG i gael rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn:
Materion Mynediad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Os bydd gennych unrhyw bryderon am faterion yn ymwneud â mynediad lleol neu hawliau tramwy cyhoeddus (llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau ac ati). Mynediad yw’r allwedd i fwynhau a deall y Parc Cenedlaethol a’n nod yw hybu mynediad cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd priodol a chynaliadwy nad ydynt yn gwrthdaro â’n hamcanion cadwraeth.
Cymryd Rhan. Gall ein Cynllun i Wirfoddolwyr ddarparu ystod eang o gyfleoedd ymarferol ar eich cyfer i’n helpu wrth i ni ofalu am dirwedd warchodedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O bartïon gwaith gwirfoddol wythnosol gyda wardeniaid i'r cynllun Gwarchod Meysydd Parcio, mae digonedd i’w wneud ar y tir.
Prosiectau Cerdded eich Ffordd at Iechyd. O deithiau cerdded byr a hawdd i deithiau cerdded mwy egnïol, mae digon o gyfle i fynd ar deithiau cerdded tywysedig i ddatblygu neu gynnal eich lefelau ffitrwydd.
Teithiau Cerdded Haws a Mynediad Anabl. Mae dros 50 o lwybrau, safleoedd ac atyniadau wedi’u rhestru yn nhywyslyfr Lleoedd i Ymweld â Nhw â Mynediad Haws. Mae’r llwybrau a amlygir yn berffaith ar gyfer rhieni â chadeiriau gwthio, pobl anabl neu’r rhai ohonom sydd am fynd am dro bach hamddenol.
Ymwelwch â’ch Bannau Brycheiniog Chi! Gyda thros 520 milltir sgwâr i’w harchwilio, bydd rhywle na fyddwch wedi ymweld ag e byth yn eich parc cenedlaethol. O’i leoliad gwyllt anghysbell, sy’n gwrthgyferbynnu â choetiroedd hynafol cysgodol, cronfeydd dŵr, rhaeadrau trawiadol, ogofâu ac ucheldiroedd gwyntog, mae rhywbeth i bawb yma.
Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol. Mae CRhPC yn ofyniad o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer y Parc cyfan dros y blynyddoedd sydd i ddod, sydd wedi’i chefnogi gan ystod eang o ymgyngoreion. Mae hefyd yn cynnwys nodau ac amcanion ar gyfer pob un o weithgareddau’r Parc Cenedlaethol, a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni’r rhain, naill gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei hun neu gan sefydliadau partner.
Rheoli Datblygu. Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd, addasiadau mawr, ymestyn adeiladau sy’n bodoli eisoes a llawer o newidiadau o ran defnyddio adeiladau a thir. Gwneir hyn i warchod a gwella’r hyn o’n hamgylch, i ddiogelu adeiladau pwysig ac ardaloedd naturiol ac i gryfhau’r economi leol. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer POB estyniad ac addasiad i anheddau.
