Cludiant Cyhoeddus ym Mannau Brycheiniog
Mae nifer o ffyrdd o gyrraedd, teithio o gwmpas a hyd yn oed mynd y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gwasanaethau Bws
Mae nifer o gysylltiadau bws rhesymol yn ardal Bannau Brycheiniog ac mae tref Aberhonddu’n ganolog i’r cyfan. Gwefan Traveline Cymru yw’r wefan orau ar gyfer cynllunio teithiau. Yn ystod y prif dymor twristiaeth, mae Bws y Bannau hefyd ar gael ar deithiau penodol. Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y dolenni.
Gwasanaethau ac amserlenni Traveline Cymru
Bws y Bannau
Nid yw Bws y Bannau dim ond ar gyfer ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol. Gall trigolion lleol gael diwrnod heb y car ar y bryniau gyda Bws y Bannau. Mae Bws y Bannau ar gael ar ddydd Sul a gwyliau’r banc o 27 Mai i 23 Medi 2007. Mae hyn yn ddeuddydd ychwanegol o ddarpariaeth a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r ychwanegiad hwn.
Trên
Lleolir yr unig wasanaethau trên yn yr ardal ar hyd ffiniau gorllewinol, dwyreiniol a deheuol y parc cenedlaethol.
Y prif orsafoedd i’r dwyrain o’r parc cenedlaethol yw Y Fenni a Phont-y-pŵl.
Y prif orsafoedd i’r gorllewin o’r parc cenedlaethol yw Llandeilo a Llanymddyfri, gan alw yn ôl y galw yn Ffairfach a Llangadog.
Y prif orsafoedd i’r de o’r parc cenedlaethol yw Merthyr Tudful a Rhymni.
Bws y Post Brenhinol
Mae’r Post Brenhinol yn gweithredu gwasanaeth Bws Post yn ardal Llanymddyfri – Myddfai a llwybr cylchol sy’n cwmpasu Aberhonddu, Talgarth, Llan-gors ac ati. Mae rhagor o fanylion gan gynnwys diwrnodau ac amseroedd gwasanaeth i’w cael drwy’r ddolen yn eitemau’r ddewislen.
