Pecyn Cymorth Gwyliau Cerdded

Sut beth fydd eich gŵyl?

Rhagymadrodd i’r adran

Mae’r adran hon yn cynnig enghreifftiau o wyliau cerdded gwahanol ac yn codi cwestiynau allweddol i’w gofyn i chi’ch hun wrth ichi ddatblygu cysyniad eich gŵyl ar y dechrau.

Ar gyfer gwyliau sydd eisoes yn bod, bydd rhai o’r cwestiynau’n fuddiol o ran adolygu ble rydych chi nawr a sut y gallech chi wella, ac fe allai’r enghreifftiau gynnig syniadau newydd ichi.

Naratif

Bydd naws eich gŵyl yn cael ei llunio gan nifer o bethau: nodweddion eich lleoliad (y tirlun, y dreftadaeth ddiwylliannol, y dreftadaeth naturiol), nodau’ch gŵyl, nifer y bobl a’r sefydliadau sy’n awyddus i’ch helpu i drefnu’r ŵyl.  Bydd eich nodau hefyd yn dangos pwy yr hoffech eu denu, er enghraifft ymwelwyr dydd a thwristiaid i fanteisio i’r eithaf ar yr effeithiau economaidd, neu bobl leol er mwyn hybu cerdded am resymau iechyd a llesiant.

Guided history walk in Durham Cathedral Woodlands

Guided history walk in Durham Cathedral Woodlands

Edrychwch ar wyliau eraill i gael gweld pa rai rydych chi’n eu hoffi.  Gallwch weld llawer o enghreifftiau yma walkingfestivals.com ac yma walkingpages.co.uk.

Dyma rai o’r pethau y gallech eu pwyso a’u mesur yn y cyfnod hwn:

  1. Pa bryd i gynnal eich gŵyl – beth yw’r adeg orau yn y flwyddyn o ran cyrraedd eich nodau? Oes gwyliau cerdded neu ddigwyddiadau eraill yn lleol nad ydych chi am wrthdaro â nhw? Neu rai yr hoffech greu cysylltiad â nhw?
  2. Eich ardal ddaearyddol – fyddwch chi’n canolbwyntio ar un lleoliad penodol ynteu ardal ehangach? Oes yna deithiau cerdded sy’n dechrau yn eich tref neu’ch pentref ei hun neu oes angen trafnidiaeth er mwyn cyrraedd mannau cychwyn addas?
  3. Pa mor hir fydd eich gŵyl – diwrnod, penwythnos, wythnos neu fwy? Gŵyl yn y gwanwyn a’r hydref?
  4. Beth allai wneud eich gŵyl chi’n arbennig – y tirlun, bywyd gwyllt, pobl leol enwog, digwyddiadau hanesyddol, eich traddodiad bwyd?
  5. Mathau o deithiau cerdded – ydy’r dirwedd yn llywio’r arlwy? Cerdded bryniau, teithiau hawdd, teithiau ar thema benodol, teithiau i’r teulu?  Fydd y teithiau cerdded yn dechrau mewn un man, neu mewn sawl man?  Oes mannau parcio?  Oes cludiant cyhoeddus?
  6. Digwyddiadau a gweithgareddau y gallech eu cynnig – adloniant gyda’r nos, meithrinfa, ymweliadau arbennig â safleoedd sydd fel arfer ar gau i’r cyhoedd
  7. Graddfa’ch gŵyl – ystyriwch pa effaith yr hoffech ei chreu. Oes gennych chi gefnogaeth awdurdod lleol, asiantaeth (er enghraifft Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) neu bartner arall sydd ag adnoddau da (er enghraifft, ymddiriedolaeth bywyd gwyllt)?

Bydd yr ystyriaethau hyn i gyd yn effeithio ar natur eich gŵyl.  Yr ystyriaeth fwyaf o bosibl yw a ydych chi am ddatblygu gŵyl gan ddefnyddio’ch adnoddau chi’ch hun, ynteu a oes gennych chi gefnogaeth awdurdod lleol neu bartner mawr arall.  Gall cefnogaeth o’r fath fod yn fuddiol iawn ac mae’n lleihau’r risg ariannol.  Serch hynny, mae angen ichi ystyried gŵyl pwy yw hi a beth sy’n digwydd os bydd partner mawr yn tynnu’n ôl yn y dyfodol?  Oherwydd toriadau yng nghyllid y llywodraeth, mae’n mynd yn anos dod o hyd i bartneriaid o’r fath, ond bydd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol gynlluniau grantiau cymunedol o hyd (a phobl eraill hefyd a gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i’ch rhoi chi ar ben y ffordd (gweler XX).

Trefnwch eich gŵyl gerdded ar yr amser gorau i’r rhai a fydd yn cymryd rhan, er mwyn cyrraedd eich nodau ac er mwyn peidio â gwrthdaro â digwyddiadau a gwyliau eraill.  Ystyriwch eich cynulleidfa. Os hoffech chi ddenu cerddwyr hŷn, gall pobl sydd wedi ymddeol deithio unrhyw bryd ac maen nhw’n hoffi prisiau rhatach y tu allan i’r tymor neu brisiau canol wythnos; targedwch deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol.  Er bod Gwyliau Banc yn rhoi penwythnos hir, mae llawer o ddigwyddiadau sydd wedi ennill eu plwyf yn cael eu cynnal bryd hynny a gall fod yn anodd i chi gael eich gweld.

Bydd y dirwedd yn pennu pa mor anodd fydd y teithiau y gallwch eu cynnig (tir uchel, tir isel arfordir, etc.) ac i raddau helaeth hyn fydd yn penderfynu cymeriad eich gŵyl.  Serch hynny, meddyliwch am anghenion y bobl yr hoffech eu denu.  Meddyliwch hefyd am yr hyn sy’n gwneud eich ardal chi’n arbennig a pha adnoddau eraill sydd gennych: safleoedd hanesyddol, gwarchodfeydd natur, ffermydd diddorol, coetiroedd, yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth eich pobl/arweinwyr

Rhaid ichi fod yn hyderus a chreadigol, ond gofalwch beidio â bod yn rhy uchelgeisiol yn y blynyddoedd cynnar.  Mae tuedd i fod yn optimistaidd, ond ewch gan bwyll a meddyliwch beth allai fynd o’i le.  Mae angen bod yn barod am bopeth. Penderfynwch beth allwch ei wneud yn dda ar yr adnoddau sydd gennych ac ewch ati i ddwyn y maen i’r wal.

Efallai yr hoffech ystyried ychwanegu teithiau cerdded at ddigwyddiad neu ŵyl sydd eisoes ar gael.  Y llynedd, trefnodd Walkers are Welcome y Fenni deithiau tywys a gafodd eu hybu fel rhan o Ŵyl Fwyd y Fenni.  Ychwanegodd hyn ddimensiwn gwahanol at yr ŵyl fwyd gan helpu i hybu cerdded yn yr ardal.  Y digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng Ngŵyl Ddaeareg Northern Rocks yw taith unffordd i High Cup Nick, sy’n daith anodd heb gludiant wedi’i drefnu’n unswydd.

A hub is important for communication and creating atmosphere (Talgarth Walking Festival)

A hub is important for communication and creating atmosphere (Talgarth Walking Festival)

Wrth i’ch gŵyl dyfu, neu os ydych yn gobeithio denu ymwelwyr i aros, efallai yr hoffech gynnig digwyddiadau gyda’r nos.  Gallai hyn fod o ddiddordeb i’r bobl leol hefyd.

Bydd ar eich gŵyl gerdded angen rhyw fath o ganolfan (gweler xx), ond does dim angen dechrau pob taith yno: a dweud y gwir bydd rhaid ichi symud ymhellach i ffwrdd er mwyn sicrhau amrywiaeth o’r naill flwyddyn i’r llall.  Gallech wneud hynny hefyd drwy symud y ganolfan o gwmpas yr ardal.

Rhestrau gwirio

Amseru’ch gŵyl

  1. Pwy rydyn ni’n ceisio’u denu? Beth yw’r amser gorau iddyn nhw deithio?
  2. Beth arall sy’n digwydd yn yr ardal? Ydy’r digwyddiadau eraill yn cystadlu ynteu’n cyd-fynd?
  3. Oes digwyddiadau cenedlaethol mawr y dylen ni eu hosgoi (e.e. digwyddiadau mawr ym myd chwaraeon, etholiadau, etc.)

Lleoliad a Fformat yr Ŵyl

  1. Ble fydd eich canolfan?
  2. Allwch chi redeg pob un o’r teithiau cerdded o’r ganolfan hon?
  3. Os na allwch, oes digon o deithiau cerdded ar gael mewn ardal benodol?
  4. Sut bydd pobl yn cyrraedd y mannau cychwyn?
  5. Ydych chi am greu effeithiau (economaidd, iechyd, ymwybyddiaeth) mewn un lle neu dros ardal eang?

Enghreifftiau o astudiaethau achos

Ceisiodd trefnwyr Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines wneud gormod yn rhy fuan, heb gynlluniau digonol wrth gefn.  ‘Wnaethon ni ddim cynllunio ar gyfer pethau’n mynd o chwith, a dyna beth ddigwyddodd.  Aeth cwpwl o’r arweinwyr yn sâl a methu arwain teithiau ar fyr rybudd.  Roedd y tywydd yn affwysol a bu’n rhaid inni newid llwybr llawer o’ teithiau anodd.  Dim ond drwy lwc a bendith y daeth pethau i fwcwl yn y diwedd.  Diana Denby Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines.

Mae Gŵyl Gerdded Ynysoedd Penrhyn Barrow a Furness yn sicrhau cyhoeddusrwydd eang ac mae wedi dod yn adnabyddus ar sail ei theithiau tywys ar draws Bae Morecambe i Ynys Piel.  Heb dywysydd mae’n anodd gwneud y teithiau hyn, ac felly mae mwy na digon o ddiddordeb bob tro ac maen nhw’n denu pobl sydd wedyn yn trefnu teithiau cerdded eraill yn rhaglen yr ŵyl, neu sy’n archebu lle ar deithiau eraill ar ôl clywed bod y daith i Ynys Piel yn llawn.

Walking across Morecambe Bay to Piel Island (Islands of Barrow Walking Festival)

Walking across Morecambe Bay to Piel Island (Islands of Barrow Walking Festival)

Crickhowell Mountain rescue

Crickhowell Walking Festival raised funds for the Mountain Rescue

Mae gan Ŵyl Gerdded Crucywel raglen amrywiol o ddigwyddiadau nos, gan gynnwys dysgu sgiliau (llywio, chwilio bwyd, etc.), adloniant (ffilm, cerddoriaeth, cwis tafarn), anerchiadau am deithio a phrofiadau (anerchiadau am gyrchoedd arbennig, cerdded yn droednoeth), gwylio’r sêr a thwmpath ar ddiwedd yr ŵyl. Grwpiau eraill yn y gymuned sy’n trefnu’r mwyafrif o’r rhain ond maen nhw’n cael eu hyrwyddo drwy’r ŵyl.  Mae’r ŵyl yn cymryd canran o werthiant y tocynnau i’r digwyddiadau hyn, a hynny heb risg ariannol nac ymrwymiad trefniadol.

Cynghorion

Gwnewch eich gŵyl yn arbennig drwy drefnu thema iddi.  Mae gan Ŵyl Archaeoleg a Cherdded Kirknewton deithiau cerdded i safleoedd archaeolegol ac arweinwyr gwybodus sy’n gallu dehongli’r archaeoleg i’r cerddwyr.

Meddyliwch am y cerddwyr a’u hanghenion.  Mae Gŵyl Gerdded Langholm yn cynnig lluniaeth – te, coffi a theisennau – ar ddiwedd pob taith, wedi’u hariannu o ffioedd y cerddwyr.  Cynigiodd Gŵyl Gerdded Borders sesiynau tylino braf ar ddiwedd rhai o’u teithiau cerdded nhw

Some festivals arrange tea and cakes after the walk (Talgarth Walking Festival)

Some festivals arrange tea and cakes after the walk (Talgarth Walking Festival)

Peidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol yn eich blwyddyn gyntaf!  Nodwch yr hyn y gallwch ei gyflawni’n gyffyrddus ac yn dda.  Gwnewch hynny, ac adeiladu arno y flwyddyn nesaf.