Dod yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog


A yw eich cleientiaid yn gofyn cwestiynau am y Parc Cenedlaethol, neu a hoffech chi gynnig hyd yn oed mwy o wybodaeth iddyn nhw? Os felly, dyma’r cwrs i chi. Mae’n gwrs yn para tri diwrnod ac wedi’i lunio i helpu busnesau sy’n ymwneud â thwristiaeth i gynnig gwasanaeth rhagorol i’w hymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’n rhoi gwybodaeth i chi, ynghyd â hyder a brwdfrydedd, ac yn eich galluogi i ddarparu gwybodaeth benodol i’ch ymwelwyr. Mae hefyd yn eich annog i archwilio rhannau o’r Parc nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.

Naws am Le Bannau Brycheiniog.

Bydd y diwrnod hwn yn archwilio’r cysyniad o naws am le ac yn trafod beth sy’n arbennig am y Bannau Brycheiniog. Mae’r diwrnod yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi ar gyfer arwain eich gwesteion at y profiadau gorau sydd i’w cael yn y Parc.

Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod bod Adelina Patti yn gantores opera enwog ac yn fodel gwreiddiol i sebon Pears?
Roedd Adelina wedi prynu Castell Craig y Nos yn 1878 ac adeiladodd ei  theatr ei hun ynddo. Gallwch weld y theatr yn ei holl ogoniant gwreiddiol hyd heddiw.
Ymarfer cyn y cwrs: Beth yw naws am le eich busnes chi a sut mae eich gwesteion yn profi’r hyn sy’n unigryw yn eich ardal?
Bydd gofyn i chi baratoi cyflwyniad heb fod yn fwy na tri munud o hyd, i roi blas o naws y lle i aelodau eraill y cwrs.
Mae’r diwrnod yn cael ei redeg gan gynrychiolydd Naws am Le Croeso Cymru.

Angerdd am y Parc.
Pwynt gwerthu’r diwrnod hwn yw’r pŵer sydd gan brofiadau bythgofiadwy i greu angerdd at ardal. Bydd y diwrnod yn dangos sut gall cynnig safon uchel eich busnes arwain at fwy o deyrngarwch i’ch busnes ac atgyfnerthu perthynas eich ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol.

Mae’r dydd yn rhoi syniadau sut i helpu ymwelwyr i greu cysylltiad â’r dirwedd drwy adrodd chwedlau a straeon yr ardal ac i ddeall sut esblygodd y dirwedd drwy weithgareddau daearegol.

Dysgu am fywyd gwyllt unigryw’r Parc a’r amrywiaeth o gynefinoedd lle mae fflora a ffawna yn ffynnu a’r llefydd lle gall ymwelwyr eu gweld ym mhob tymor yn cyfrannu at hyn.

Edrych ar y dyfodol a sut gall adnoddau naturiol gostyngol effeithio ar y Parc.

Mae’r diwrnod yn cynnwys taith gerdded fer i faen hir ar dir comin Mynydd Illtud. Bydd cwis i ddilyn.

Ymarfer cyn y cwrs: Beth a lle yw eich hoff fan yn y Parc a pham ei fod yn arbennig i chi?
Mae’r diwrnod hwn yn cael ei redeg gan swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Adnabod ein Gilydd
Mae ymwelwyr yn gwneud llawer o ymchwil ar Fannau Brycheiniog cyn dewis dod yma ar eu gwyliau, ble i aros a beth i’w wneud. Faint o ymchwil ydych chi wedi ei wneud ar eich ymwelwyr? Byddwn ni’n trafod yr holiadur diweddaraf am Fannau Brycheiniog ac yn rhannu’r canlyniadau gyda chi; cawn edrych ar sut y gall y canlyniadau ddylanwadu ar beth rydyn ni’n ei gynnig o ran twristiaeth. Ar ôl cinio cewch sesiwn farchnata i’ch helpu i farchnata eich busnes a Bannau Brycheiniog fel cyrchfan yn effeithiol.

Llysgenhadon Cymwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’n hanfodol eich bod yn mynychu’r tri diwrnod er mwyn ennill statws Llysgennad, ac ar ôl gorffen y cwrs:

• Byddwch yn cael dolen ar y dudalen gwe Llysgennad ar wefan y Parc Cenedlaethol
• Byddwch yn cael bathodyn, sticer ffenestr a thystysgrif yn nodi eich bod yn Llysgennad cymwys, blwch dosbarthu taflenni, a phoster bywyd gwyllt.

Er mwyn cadw eich statws Llysgennad bydd angen i chi fynychu un o gyrsiau hyfforddi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n cael eu trefnu yn yr Hydref a’r Gwanwyn.
Mae yna hefyd ddigwyddiad blynyddol wedi’i drefnu’n arbennig i Lysgenhadon.