Gwybodaeth i Fusnesau Twristiaeth

Bob blwyddyn mae tua 4.5 miliwn o bobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan dreulio 5.4 miliwn o ddiwrnodau a gwario £278 miliwn (ffigurau 2018).

Mae’r busnesau twristiaeth niferus yn y Parc Cenedlaethol yn ogystal â’r cymunedau sy’n dibynnu ar yr incwm hwn yn cael budd sylweddol o’r diwydiant ymwelwyr.  Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n agos â nhw i sicrhau bod twristiaeth yn esgor ar gymaint o fuddiannau â phosib i’r gymuned a’r amgylchedd ond ar yr un pryd yn ceisio lliniaru a rheoli’r effaith a gaiff yr ymwelwyr hyn.