Dogfen arweiniol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw’r Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol y mae rhaid iddo ei ddatblygu o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 . Mae’n gosod gweledigaeth ar gyfer y Parc cyfan dros y blynyddoedd i ddod gyda chefnogaeth ystod eang o ymgynghoriadwyr. Mae hefyd yn cynnwys nodau ac amcanion ar gyfer pob un o weithgareddau’r Parc Cenedlaethol, a’r gweithredu angenrheidiol i’w gwireddu, boed hynny gan Awdurdod y Parc ei hunan neu gan gyrff partneriaethol .
Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaetholo yw’r ysbrydoliaeth am yr holl gynlluniau a strategaethau eraill a lunir gan Awdurdod y Parc, megis y Cynllun Gweithredu Bioamrwyiaeth Lleol, y Strategaeth Twristiaeth a’r Cynllun Datblygu Unedol. Mae hefyd yn cwmpasu’r angen am ddiweddaru neu baratoi strategaethau eraill megis y rhai ar gyfer Addysg a Thrafnidiaeth.
Dyma’r Cynllun Rheoli Blaenorol ar gyfer y cyfnod hyd at 2005.
Llwythwch i lawr Testun Saesneg Testun Cymraeg Mapiau
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dechrau paratoi cynllun rheoli newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Cam cyntaf y broses yw Adroddiad Cyflwr y Parc y gellwch ei weld yn Gymraeg neu Saesneg
Cynhaliwyd Gweithdai Cyfranogwyr dros dridiau ym mis Hydref. Testun pob diwrnod oedd Dibenion a Dyletswyddau’r Parc Cenedlaethol. Cewch lwytho Adroddiad yr achlysur cyfranogwyr cyfan i lawr fel PDF.
Gweithdy Cyfranogwyr - Adroddiad yr Achlysur Cyfan
Fel arall, cewch lwytho adroddiadau unigol pob un o’r tri gweithdy i lawr ar wahân.
Gweithdy Tirwedd, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol -12fed Hydref 2006
Gweithdy cynaliadwyedd Mwynhau’r Parc -19eg Hydref 2006
Gweithdy Cymunedau Cynaliadwy – 20ain Hydref 2006
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Cyhoeddus yng nghymunedau ledled y Parc ym mis Ionawr ac yn gynnar ym mis Chwefror 2007
Y cam nesaf yw llunio drafft Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol.
You can now view planning applications, related documents and comment on them online
News updateMore news from the National Park
