Newid yn yr hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn bwnc rydym yn clywed amdano fwyfwy. Ond sut mae’n ymwneud â bioamrywiaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Mae consensws traws-sector erbyn hyn y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y Deyrnas Unedig (y DU) yn sylweddol yn ystod yr 21ain ganrif. Mae ymateb iddo wrth wraidd polisïau Ewrop, y DU a Chymru erbyn hyn.
Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd angen hefyd i ni addasu at newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol agos. Bydd ein hardaloedd uwchdirol yn hynod agored i niwed, o ystyried eithafon yr hinsawdd a geir yma. Mae ein hamgylchedd naturiol hefyd yn hollbwysig i ddyfodol ffermio a thwristiaeth yn y Parc Cenedlaethol. Cydnabyddir yn eang y rôl bwysig y gall Parciau Cenedlaethol ei chwarae o ran helpu Cymru a’r DU i addasu i newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, fel dulliau o hybu ymatebion integredig i newid yn yr hinsawdd a’i hasesu.
Yn ystod 2004, mae Ecolegydd y Parc Cenedlaethol wedi ystyried ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth am newid yn yr hinsawdd. Mae trosolwg manwl o’r wybodaeth hon ac effeithiau rhagweledig a phresennol newid yn yr hinsawdd ar y byd naturiol – y fioamrywiaeth – ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’i gyhoeddi erbyn hyn mewn adroddiad ar Newid yn yr Hinsawdd (dogfen PDF: 239k).
Mae’r adroddiad yn esbonio ystyr newid yn yr hinsawdd, yn edrych ar bolisïau cenedlaethol ac yn rhoi sylwadau ar rai o’r materion a godir (er nad yw’r sylwadau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Os nad ydych wedi gosod meddalwedd Acrobat Reader, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, ar eich cyfrifiadur, gallwch ei lawrlwytho o wefan Adobe.
Beth fydd yn digwydd i’r Parc Cenedlaethol?
Gweler hefyd:
Nodyn Gwybodaeth am Newid yn yr Hinsawdd ym Mannau Brycheiniog
Datganiad Sefyllfa ar Newid yn yr Hinsawdd Cymdeithas Awdurdodau’r Parc Cenedlaethol
Adroddiad byr ar ddyfodol rheoli tir o fewn tirweddau a warchodir o'r enw Future Parks in Future Climates - Scalable Solutions
Gwefan Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU (UKCIP)
Tudalen Adroddiad Arbennig Guardian Unlimited ar Newid yn yr Hinsawdd
Mae gwefan UK Phenology yn darparu gwybodaeth ar galendr o ddigwyddiadau naturiol sy’n newid yn gyson. Gallwch hyd yn oed fod yn rhan ohoni drwy fonitro digwyddiadau lleol i helpu i gael darlun cenedlaethol o ba un ai yw newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar natur!!
Gwefan Nature Detective - gwefan NEWYDD ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 4 a 18 oed – yn darparu gwybodaeth a phrosiectau ffenoleg. Yn darparu deunyddiau addysgol, gweithgareddau a gemau AM DDIM.
Tudalennau gwe Newid yn yr Hinsawdd y BBC – yn cynnwys gwybodaeth hawdd ei deall am dystiolaeth, effeithiau, polisïau a bwrdd negeseuon.
Hadley Centre for Climate Prediction & Research – yn cynnwys llawer o wybodaeth am newid yn yr hinsawdd yn ogystal â dogfennau ymchwil i chi eu lawrlwytho.
Beth am gael cip ar map rhyngweithiol Swyddfa Dywydd y DU i weld effeithiau rhagweledig o newid 4 gradd celsiws ar amaethyddiaeth, argaeleddd dŵr a lefel y môr.
