Y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Mae bioamrywiaeth yn fregus, hyd yn oed yn y Parc Cenedlaethol. Am y rheswm hwn mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i bartneriaid wedi llunio Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2001.

Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn nodi pa gynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwysigrwydd penodol o safbwynt cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol gan amlinellu’r camau gweithredu allweddol i’w cyflawni drwy bartneriaeth y Cynllun Gweithredu.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw ac mae wedi cael ei hadolygu’n rheolaidd. Mae’r camau gweithredu yn y Parc bellach yn canolbwyntio ar y rhywogaethau a’r cynefinoedd hynny a nodwyd eu bod o Bwysigrwydd Allweddol er mwyn gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru o dan Adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig. Gallwch weld rhestr o’r ‘rhywogaethau a chynefinoedd Adran 42’ yma.

Gallwch weld y camau gweithredu cysylltiedig eraill ar y System i Gofnodi Camau Gweithredu Bioamrywiaeth (BARS).