Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth (BIS)

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Bannau Brycheiniog (neu’r BIS – Biodiversity Information Service!) yn darparu mecanwaith ar gyfer cyfuno, rhannu a defnyddio’r cyfoeth o ddata a gwybodaeth fiolegol sy’n bodoli yn y rhan hon o’r wlad. Nod y Gwasanaeth yw gwneud y wybodaeth ar fywyd gwyllt, eu cynefinoedd a safleoedd arbennig yn hygyrch i bawb sydd ei hangen. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau a all effeithio ar dreftadaeth naturiol ardal Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cael ei gwneud â’r wybodaeth orau sydd ar gael.

Lansiodd y Gwasanaeth ei wefan newydd yn ddiweddar, sydd wedi’i ddatblygu fel bod modd ei ddefnyddio ar dabledi a ffonau symudol hefyd. Gallwch weld pa fywyd gwyllt sydd wedi’i gofnodi yn eich ardal ac os gwelwch chi esiampl eich hun gallwch ei ychwanegu’n rhwydd at Gronfa Ddata Cofnodi Bywyd Gwyllt (WiReD) ar-lein y Gwasanaeth. Gallwch hefyd weld yr holl gofnodion rydych chi wedi’u cyflwyno, felly os hoffech chi gadw eich rhestr eich hun o fywyd gwyllt yn eich gardd mae modd i chi wneud hynny.

Mae’r wefan hefyd yn gweithredu fel yr adnodd cofnodi bioleg lleol gyda newyddion o weithgareddau cofnodi bywyd gwyllt lleol, a dolenni i wefannau cofnodi lleol a chenedlaethol.