Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol

Beth yw Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol?

Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol (a elwir hefyd yn Safleoedd sy’n Bwysig ar gyfer Cadwraeth Natur) yn ffordd o nodi rhai o’r llefydd gorau am fywyd gwyllt yn lleol. Maen nhw’n ardaloedd sy’n cael eu hystyried i fod o werth cadwraeth arbennig oherwydd y cynefin neu’r amrywiaeth o rywogaethau maen nhw’n eu cefnogi. Mae safleoedd yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf lleol sy’n cynnwys edrych am rywogaethau dangosol allweddol.

Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn chwarae rhan hollbwysig mewn cadwraeth drwy ddarparu llochesau bywyd gwyllt, amddiffyn rhywogaethau a chynefinoedd mewn perygl, ac actio fel cysylltiadau a choridorau rhwng safleoedd wedi’u dynodi’n genedlaethol fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Wildflower meadow

Sut mae safleoedd yn dod yn Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol?

Cafodd y mwyafrif o Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol y Parc eu hadnabod diolch i Ymddiriedolaeth Natur Brycheiniog, drwy eu prosiect Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol a redodd o 2006-2009. Cafodd y safleoedd eu darganfod mewn llawer o ffyrdd gan gynnwys ymweld â safleoedd oedd â hanes o fod yn dda i fywyd gwyllt ac ymweld â pherchnogion tir a oedd yn credu y gallan nhw fod â Safle Bywyd Gwyllt o ansawdd.

Cafodd y safleoedd eu harchwilio gan arolwg botanegol a’u hasesu yn erbyn Meini Prawf ar gyfer Dewis Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn y Bannau Brycheiniog. Cafodd pob safle ei gymeradwyo neu fel arall gan Banel Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol Bannau Brycheiniog, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Natur Brycheiniog, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys, PONT, BIS, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Beth mae’n golygu i fod yn Safle Bywyd Gwyllt Lleol?

System wirfoddol yw Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol er mwyn annog a chefnogi perchnogion tir i ddysgu am y bywyd gwyllt arbennig sydd ar eu tir a sut i ofalu amdano.

Dyma rhai o nodweddion pwysig cael Safle Bywyd Gwyllt Lleol ar eich tir:

  • Nid yw’n gosod cyfyngiadau cyfreithiol ar eich gweithrediadau amaethyddol neu benderfyniadau rheoli.
  • Nid yw’n creu hawliau tramwy newydd ar eich tir.
  • Gall helpu perchnogion i ddiogelu’r safle rhag unrhyw waith datblygu andwyol ond nid yw’n ymrwymo’r perchnogion i unrhyw beth.
  • Ei nod yw cydnabod bod safle yn un o’r llefydd gorau ar gyfer bywyd gwyllt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn achos i ymfalchïo ynddo.
  • Nid yw’n golygu y gallwn ni gael mynediad i’ch tir yn ôl ein dymuniadau ni – mae’n rhaid i ni gael eich cytundeb cyn unrhyw ymweliad.
  • Gall helpu i gael cyllid i wneud gwaith rheoli sy’n gyfeillgar wrth fywyd gwyllt.

Am fwy o wybodaeth ar Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur Brycheiniog.