Adfer y Mynyddoedd Duon

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru (yr hen Cyngor Cefn Gwlad Cymru), Llywodraeth Cymru a Natural England yn rhan o bartneriaeth anffurfiol sy’n gweithio i wella cyflwr Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Mynyddoedd Duon yn enwedig yr ardal drawsffiniol.

Mae llawer o bwysau gwahanol ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, megis pori ac adloniant, ac mae’r Safle mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau bod y Safle hwn yn dychwelyd i gyflwr ffafriol mae llawer o gamau yn cael eu cymryd:

  • Rhywfaint o reoli rhedyn
  • Rheoli grug
  • Rheoli llwybrau i leihau erydiad
  • Gwaith atgyweirio erydiad mewn 2 ardal fawr ar grib Hatterrall sydd heb gael eu trin ers y tanau afreolus yn oddeutu 1976
  • Yn Lloegr mae pori defaid yn cael ei wahardd yn y Gaeaf a’i leihau yn yr Haf

Mae’r gwaith rheoli erydu ar grib Hatterall yn cynnwys arafu llif dŵr i leihau egni erydol y dŵr a sefydlogi’r pridd a’r mawn agored er mwyn annog planhigion brodorol i aildyfu.

Mae llif dŵr yn cael ei reoli gan adeiladwaith o goed bychan, plastig, rhisgl ac argaeau o falurion coed.

Bydd camau i sefydlogi’r pridd yn cael eu cyflwyno drwy roi shîts geojute ar y ddaear a’u gorchuddio â malurion grug, yn ogystal â thorri arwyneb y tir caled a rhoi deunydd organig yn yr holltau i wella athreiddedd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Richard Ball, Swyddog Mynediad