Glastir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn am dystiolaeth er mwyn pennu’r ardaloedd gorau i’w targedu er mwyn cael y budd mwyaf o’r cynllun. Mewn ymateb i hyn, lluniodd Awdurdod y Parc “The Beacon Beacons National Park: A good place for Glastir Sustainable Land Management Scheme.

Mae’r ddogfen yn nodi’r rhesymau a’r anghenion dros ddod â Glastir i’r Parc Cenedlaethol a sut y bydd yn dod â budd i’r economi a’r amgylchedd gwledig. Caiff llawer o’r prosiectau cyfredol a gyflawnir yn y Parc eu disgrifio ac maen nhw’n enghreifftiau o’r math o waith y gallai Glastir helpu i’w gwblhau. Bydd Glastir yn gyfle newydd i wella ardaloedd sylweddol o’r ucheldiroedd ynghyd â thir fferm cynhyrchiol mewn ardaloedd sensitif.