Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig i ni?

Bioamrywiaeth yw sail bywyd ar y ddaear. Mae’n hanfodol er mwyn gweithredu ecosystemau, sy’n ein darparu â chynhyrchion a gwasanaethau na allem fyw hebddynt.

Mae ocsigen, dŵr croyw, pridd ffrwythlon, meddyginiaethau, cysgod, amddiffynfeydd rhag stormydd a llifogydd, hinsawdd sefydlog a hamdden – i gyd yn tarddu o natur ac ecosystemau iach. Ond mae bioamrywiaeth yn rhoi cymaint mwy na hyn inni. Rydym yn dibynnu arno ar gyfer ein diogelwch a’n hiechyd; mae’n cael effaith fawr ar ein perthnasau cymdeithasol ac yn rhoi rhyddid a dewis inni.

Mae bioamrywiaeth yn hynod o gymhleth, dynamig ac amrywiol, nid oes un nodwedd arall o’r ddaear yn debyg iddo. Mae ei blanhigion, ei anifeiliaid a’i ficrobau dirifedi yn uno’r atmosffer (y gymysgedd o nwyon o amgylch y Ddaear), y geosffer (y rhan solid o’r Ddaear), a’r hydrosffer (dŵr, rhew ac anwedd dŵr y Ddaear) yn ffisegol ac yn gemegol i greu un system amgylcheddol. Dyma sy’n ei gwneud yn bosib i filiynau o rywogaethau, yn cynnwys pobl, fodoli.

Eto fyth, nid oes yr un nodwedd arall o’r Ddaear y mae gweithgarwch dyn wedi dylanwadu mor ddramatig arni. Drwy newid bioamrywiaeth, rydym yn effeithio ar les y ddynol ryw a lles pob creadur byw arall.