Rhywogaethau goresgynnol nad ydynt yn gynhenid

Mae llawer o rywogaethau nad ydynt yn gynhenid yn bygwth ein cynefinoedd a’n rhywogaethau cynhenid yn y DU heddiw. Yn eu plith mae:

Clymog Japan (Japanese Knotweed)

Mae hinsawdd y DU yn ddelfrydol ar gyfer y planhigyn hwn sy’n ymledu’n gyflym. Mae i’w weld bellach yn y rhan fwyaf o ranbarthau ym Mhrydain. Mae’n cynhyrchu ymledwyr tanddaearol sy’n lledaenu ac yn gwthio cyffion gwag i’r wyneb. Mae’r ymledwyr hyn yn gryf iawn a gallant wthio i fyny drwy waliau cerrig, cerrig palmant a hyd yn oed tarmac mewn fawr o dro. Mae’r egin hyn yn ffurfio tyfiant trwchus ac yn rhoi llawer o gysgod tra bod yr ymledwyr yn llenwi’r pridd. Cyn bo hir, ni all unrhyw beth arall dyfu o dan y canopi o ddail clymog Japan gan ei bod yn rhy dywyll.

Balsam Himalaiaidd (Himalayan Balsam).

Planhigyn deniadol sy’n tyfu’n gyflym ar lannau dŵr yw’r Balsam Himalaiaidd. Mae wedi lledaenu ar draws y DU yn rhannol oherwydd bod pobl wedi’i anwybyddu, yn rhannol oherwydd ei fod yn blanhigyn deniadol, ac yn rhannol oherwydd ei allu i ledaenu ei hadau. Mae’r hadau’n datblygu mewn masglau sy’n cynnwys edefyn hir. Wrth i fasgl yr hedyn sychu yn yr haf, mae’r edefyn yn crebachu gan ymdebygu i siâp sbring ond mae croen y masglau’n eu cadw’n syth. Pan fydd yr hadau’n aeddfed, mae’r fasgl yn chwalu ac yn rhyddhau’r edefyn sy’n crebachu i sbring yn gyflym ac yn taflu’r hedyn o’r fasgl. Gall hadau gael eu taflu hyd at 5m a gallant gael eu cario ar afonydd a nentydd am eu bod yn gallu gwrthsefyll dŵr a lledaenu i leoedd newydd.

Rhododendron

Plannwyd Rhododendron yn fwriadol mewn rhannau helaeth o goetiroedd y DU am eu bod yn rhoi lloches i adar hela ar stadau saethu. Gan ei fod yn fythwyrdd, mae’n cuddio planhigion cynhenid fel clychau’r gog ac eirlysiau mewn coetiroedd ac mae’r dail sy’n syrthio oddi arno’n newid y pridd ac yn rhwystro planhigion eraill rhag tyfu. Nid yw ei ganghennau gwasgarog yn rhoi fawr o gyfle i adar sy’n nythu ac nid yw’n cynhyrchu hadau ar gyfer bywyd yn y gaeaf.

Minc Americanaidd

Mae’r minc yn ysglyfaethwr ystwyth sy’n gallu addasu ei hun. Ers iddo gael ei ryddhau i fywyd gwyllt (a hynny’n fwriadol ac yn anfwriadol), mae wedi addasu’n dda i fyw yn y DU. Gall nofio, rhedeg a dringo a bydd yn bwyta amrywiaeth o anifeiliaid eraill fel adar dŵr, pysgod, amffibiaid, mamolion bychain ac ymlusgiaid. Doedd ein bywyd gwyllt cynhenid erioed wedi gweld ysglyfaethwr a oedd mor llwyddiannus yn addasu ei hun, felly doedden nhw ddim yn gallu amddiffyn eu hunain rhagddo. Y minc yw un o’r prif resymau bod nifer llygod y dŵr wedi gostwng mor syfrdanol. Mae llygod y dŵr yn dianc rhag ysglyfaethwyr drwy nofio i ffwrdd, ond mae llygod y dŵr yn darged hawdd i’r minc am ei fod yn gallu nofio hefyd. Nid oes unrhyw ysglyfaethwyr sy’n gallu rheoli nifer y mincod. Maent bellach yn gyffredin yn y rhan fwyaf o ranbarthau’r DU, er eu bod i’w canfod ger afonydd neu leoedd eraill lle ceir dŵr gan amlaf.

Gallwch gael gwybodaeth am ddynodi a rheoli rhywogaethau goresgynnol nad ydynt yn gynhenid drwy ysgrifenyddiaeth rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid Prydain Fawr.

Anfonwch unrhyw gofnodion am rywogaethau goresgynnol nad ydynt yn gynhenid at ein canolfan cofnodion leol. Hefyd, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw rywogaethau goresgynnol a welwch ar dir y Parc Cenedlaethol drwy ein tudalen cysylltu â ni.