Bioamrywiaeth yn Diflannu

Mae ecosystemau yn newid yn barhaus ac mae rhywogaethau’n diflannu o hyd wrth i amodau amgylcheddol newid fel nad oes modd iddynt oroesi mwyach. Mae hon yn broses naturiol, ond mae’n digwydd dros gyfnodau hir o amser sy’n galluogi rhywogaethau newydd i esblygu a chadw ecosystemau’n weithredol.

Fodd bynnag, mae rhywogaethau bellach yn diflannu’n llawer cyflymach na’r broses naturiol o esblygu a difodiant. Mae hi bellach yn amlwg mai gweithgarwch dynol, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yw’r rheswm dros y cyfraddau difodiant uchel presennol.

Wrth i rywogaethau ddiflannu, mae bylchau yn dechrau ymddangos yn yr ecosystemau. Maent yn fach i ddechrau ond gan fod pob rhywogaeth yn dibynnu ar eraill, mae colli un yn cael effaith ganlyniadol, sy’n achosi effaith niweidiol ar eraill. Wrth i fwy o fylchau ymddangos, bydd yr holl ecosystem yn dechrau chwalu a bydd nifer o’r rhywogaethau eraill yn cael eu colli hefyd. Bydd hyn yn cael cryn effaith gymdeithasol, economaidd a seicolegol arnom ni wrth inni frwydro i fyw heb y pethau sylfaenol, angenrheidiol sydd eu hangen ar bob anifail.

Mae’r ffactorau sy’n chwarae rhan yn y broses o golli bioamrywiaeth yn cynnwys:

Mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu er mwyn cadw’r fioamrywiaeth sydd o’n cwmpas – nid yn unig ar gyfer y presennol ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.