Glaswelltir a Thir Fferm

Mae’r gwahanol gerrig sy’n ffurfio tirwedd y Parc Cenedlaethol yn cael effaith ar y pridd sy’n datblygu uwch eu pen. Mae gan y priddoedd hyn wahanol asidedd neu allu i ddal dŵr ac felly’n magu llystyfiant sy’n addas ar gyfer yr amgylchiadau hynny. Mae amrywiaeth o wahanol laswelltiroedd wedi datblygu ar y priddoedd gwahanol hyn.

Mae ffermio wedi bod yn hanfodol i greu a chynnal nifer o’r cynefinoedd glaswelltir lled-naturiol rydym yn eu gwerthfawrogi heddiw oherwydd eu gwerth bioamrywiol.

Am fwy o wybodaeth am fathau o laswelltiroedd a rheolaeth glaswelltiroedd, gweler:

Plantlife: Ymgyrch Achub Gweunydd.

Natural England: Mae’r Llawlyfr Rheoli Glaswelltiroedd yr Iseldir yn cynnwys toreth o gyngor a gwybodaeth ymarferol i’w llwytho i lawr mewn adrannau ar wahân.

Taflen wybodaeth Gweunydd a phorfeydd yng Nghymru.

Mae’r RSPB yn cynhyrchu cryn dipyn o gyngor ymarferol i ffermwyr.

Tarwch olwg ar y cynefinoedd glaswelltir a ffermdir yn y Parc Cenedlaethol gan ddefnyddio’r bar llywio ar y chwith.