Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol

Mae bioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhinwedd naturiol aruthrol. Mae’n rhoi cymeriad unigryw i’r Parc Cenedlaethol, ac yn cefnogi ffermio, coedwigaeth, twristiaeth a busnesau eraill; yn ogystal â chynnig profiadau i adfywio’r enaid ac ymarfer corff iach i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

Mae nifer o gynefinoedd y Parc yn bwysig yn rhyngwladol a’r Parc yw’r unig le ym Mhrydain lle mae modd dod o hyd i nifer o rywogaethau prin. Mae amrywiaeth bywyd gwyllt y Parc yn ddyledus i’w hinsawdd arbennig a’i dirwedd sylfaenol wedi’u cyfuno ag ardal ddiarffordd ac arferion ffermio traddodiadol.

Mae ein Parc Cenedlaethol yn dirwedd ddiwylliannol, lled-naturiol sydd wedi ei ffurfio gan natur ond wedi ei ddylanwadu gan reolaeth dyn dros y tir dros filoedd o flynyddoedd. Canlyniad y prosesau ymblethol hynny yw bioamrywiaeth Bannau Brycheiniog heddiw.

Defnyddiwch y bar llywio ar ochr chwith y sgrin i ddarganfod mwy am rywogaethau a chynefinoedd y Parc.

Ydych chi am fynd allan i fwynhau bywyd gwyllt yn y Parc Cenedlaethol? Ewch i ddigwyddiad Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog neu ddod o hyd i lefydd gwyllt i ymweld â nhw yn y Parc Cenedlaethol.