Beth yw bioamrywiaeth?

Enw byrrach am “amrywiaeth fiolegol” yw bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth ym mhobman. Mae’n digwydd ar y tir ac yn y môr, ar dir uchel a ffosydd cefnfor dwfn ac mae’n cynnwys popeth byw, o facteria microsgopig i blanhigion cymlethach.

Ers dros 3,500 miliwn o flynyddoedd, mae pethau byw wedi esblygu, o’r bacteria a’r algâu ungellog cyntaf i blanhigion, dinosoriaid, mamaliaid a phobl. Mae pethau byw yn newid ac yn canfod ffyrdd newydd o fyw drwy’r amser. Mae rhywogaethau newydd yn esblygu i fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael ac yn creu cysylltiadau cymhleth gyda’r rhywogaethau o’u cwmpas yn sgil hynny. Mae’r cysylltiadau hyn yn creu ecosystemau lle mae pob anifail neu blanhigyn yn dibynnu ar eraill i roi hanfodion bywyd: bwyd, lle i fyw a’r modd i ailgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf.

Mae amrywiaeth yr amodau yn yr amgylchedd naturiol yn cynnig cyfleoedd lu i wahanol rywogaethau ganfod y man mwyaf addas iddynt fyw ynddo – eu cynefinoedd.

Mae amrywiaeth y rhywogaethau yn helpu i sicrhau bod ecosystemau’n iach a bod rhywogaethau’n gallu parhau i esblygu wrth i amodau newid.

Mae’r amrywiaeth eneteg rhwng unigolion o bob rhywogaeth yn helpu i wneud pob cenhedlaeth yn ddigon cryf i esblygu ac addasu.