Adeiladau ac adeileddau trefol
Mae ein cartrefi, swyddfeydd ac adeiladau fferm a bron pob adeilad arall yn cynnig lle i fywyd gwyllt ymgartrefu. Mae angen cysgod, gwres a diogelwch ar bob anifail ac felly mae ein cartrefi’n fannau deniadol i nifer o rywogaethau.
Mewn llawer o ffyrdd, mae ein hadeiladau cerrig a brics yn debyg i frigiadau creigiau naturiol. Mae’r adeiladau hyn yn cynnig cartref i rywogaethau erbyn hyn a fyddai’n chwilio am amodau tebyg i’r rhai y mae’r adeiladau yn eu cynnig, yn bennaf cysgod o’r tywydd a diogelwch rhag ysglyfaethwyr.
Ystlumod yw un o’r gwesteion mwyaf cyffredin y gallwch eu darganfod yn rhannu cartref neu dŷ. Darllenwch fwy am ystlumod yn y Parc Cenedlaethol neu ewch i’r tudalennau cynllunio am gyngor ar ystlumod a datblygu.
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd trefol gwahanol neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol
