Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol
Daw’r fioamrywiaeth a’r tirweddau sy’n bodoli yn y Parc Cenedlaethol heddiw o ganlyniad i filoedd o flynyddoedd o bobl yn eu defnyddio drwy fod yn gysylltiedig â phrosesau naturiol. Mae amrywiaeth drawiadol o gynefinoedd i’w cael yn y Parc Cenedlaethol, o rostiroedd agored a llwm yr uwchdiroedd, i welyau gro Afon Wysg. Mae’r amrywiaeth hon yn darparu cartrefi ar gyfer miloedd o rywogaethau, nid yw rhai o’r rhain i’w cael yn unman arall ar y ddaear.
- Mae ein prosesau rheoli ar y tir dros y canrifoedd wedi addasu ac annog datblygu rhai o’r cynefinoedd hyn.
- Mae ein glaswelltiroedd mor eang dim ond oherwydd ein bod wedi annog eu datblygu fel modd o fwydo da byw.
- Mae ein coetiroedd wedi newid drwy dorri, symud coed ac ailblannu.
- Mae ein hafonydd a’n gwlypdiroedd wedi’u newid drwy ddraenio ac amddiffynfeydd llifogydd.
- Mae ein hardaloedd trefol yn darparu amgylchedd artiffisial y mae rhai rhywogaethau wedi arfer â byw ynddo.
Mae amgylchedd y Parc Cenedlaethol yn dirwedd rannol naturiol, yn un a ffurfiwyd â systemau naturiol ond â dylanwad systemau rheoli pobl ar y tir. Mae’n bwysig cofio’r ffaith mai “tirwedd ddiwylliannol” yw’r parc gan fod rheoli amgylchedd y Parc yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Parc.
Ydych chi am wybod mwy? Gallwch ddarllen straeon rhyfeddol a newyddion diddorol am gefn gwlad Cymru yn Natur Cymru.
Ydych chi am fynd allan a mwynhau bywyd gwyllt yn y Parc Cenedlaethol? Beth am fynd i digwyddiad Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog neu ddod o hyd i lleoedd gwyllt i ymweld â nhw yn y Parc Cenedlaethol.
